Allyriadau Carbon

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:11, 2 Mawrth 2022

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Ychydig o wythnosau yn ôl, ces i'r pleser o gwrdd ag awdurdod porthladd Aberdaugleddau a chael cyfarfod buddiol iawn ynglŷn â'u cynlluniau nhw ar gyfer y dyfodol. Daeth hi i'r amlwg yn y cyfarfod hwnnw, wrth i Gymru geisio cynyddu ei hymdrechion i gyrraedd ei thargedau net zero wrth fanteisio i'r eithaf, wrth gwrs, ar gyfleoedd twf gwyrdd, bod angen i'r prif gyflogwyr olew a nwy yn sir Benfro drawsnewid o'u sectorau traddodiadol er mwyn lleihau allyriadau carbon a datblygu diwydiannau gwyrdd newydd o gwmpas porthladd Aberdaugleddau, er enghraifft, sy'n cynnal dros 4,000 o swyddi da yn lleol. Felly, yn ogystal â phroject morol Doc Penfro, sy'n rhan o fargen ddinesig bae Abertawe, fel y gwyddoch chi, a wnewch chi amlinellu a yw Llywodraeth Cymru'n barod i fuddsoddi ymhellach ac yn uniongyrchol mewn rhai o'r technolegau megis hydrogen a gwynt o'r môr, a hefyd cynlluniau i ddal carbon, carbon capture, er mwyn darparu swyddi gwyrdd yn ardal sir Benfro gan ddatgloi cyfle posibl gwerth £5 biliwn i'r rhanbarth ac i Gymru?