Cynllun Arbed 2

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:59, 2 Mawrth 2022

Diolch ichi am eich cefnogaeth efo'r mater yma, achos rydych chi yn gwybod bod yna nifer o broblemau wedi bod yn codi yn fy etholaeth i. Dwi yn dal i helpu nifer o etholwyr efo ceisiadau am iawndal gan y contractwyr neu'r cwmnïau gwarant, ond does yna'r un o'r achosion yma wedi cyrraedd pen ei daith yn llwyddiannus hyd yma, ac mae yna o leiaf pum achos dwi'n gwybod amdanyn nhw yn wynebu sefyllfa lle mae'r cwmni adeiladu a'r cwmni gwarant wedi mynd i'r wal, felly does yna ddim iawndal ar eu cyfer nhw. Er mai cynllun gwahanol sydd wedi achosi problemau yn ardal Maesteg, dwi yn credu bod Llywodraeth Cymru yn mynd i roi cymorth i etholwyr sydd mewn sefyllfa debyg iawn i fy etholwyr i yn Arfon yn yr ardal honno. Cynllun gwahanol ydy hwnna, ie, ond yr un ydy'r egwyddor, sef y dylid rhoi cymorth i bobl lle mae'r cwmnïau adeiladu a'r cwmnïau gwarant wedi mynd i'r wal. Cynlluniau Llywodraeth oedd y rhain; cynllun Llywodraeth Cymru oedd Arbed 2, ac fe gymerodd bobl ran yn y cynlluniau ar argymhelliad y Llywodraeth. Felly, os ydy pobl ardal Maesteg i gael ad-daliad, onid ydy hi'n deg disgwyl i bobl yn fy etholaeth i gael eu trin yn gydradd a'u bod hwythau hefyd yn cael arian er mwyn adfer eu cartrefi?