Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 2 Mawrth 2022.
Weinidog, yn gynharach eleni cefais y pleser o ymweld â datblygiad arobryn Pludds Meadow y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn Nhalacharn yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, safle a weithredir gan Salem Construction, sy'n cynhyrchu cartrefi ansawdd uchel sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ar gyrion un o drefi enwocaf sir Gaerfyrddin. Roedd yr adeiladwyr yn awyddus iawn i leihau eu hôl troed carbon, gan ddefnyddio staff lleol ac eitemau fel pympiau gwres ffynhonnell aer i wresogi eu cartrefi. A wnewch chi amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau fel Salem Construction i helpu i leihau eu hallyriadau carbon hyd yn oed ymhellach, drwy'r ffordd y caiff eu busnesau eu rhedeg a thrwy barhau i gynhyrchu cartrefi sy'n creu ôl troed carbon bach? Diolch.