Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 2 Mawrth 2022.
Ddoe cyhoeddais adroddiad blynyddol 'Cymraeg 2050' ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21. Mae'n nodi cynnydd yn erbyn ein targedau. Pan fydd canlyniadau cyfrifiad 2021 wedi'u cyhoeddi, byddwn yn ailedrych ar y taflwybr ystadegol tua'r filiwn, fel yr addewais fis Gorffennaf y llynedd wrth gyhoeddi ein rhaglen waith ar gyfer 2021-26.