Anghydfod Pensiwn Sefydliadau Addysg Uwch

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:35, 2 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, mae prifysgolion wedi darparu ystod o wahanol ffyrdd y gall myfyrwyr barhau â'u haddysg, hyd yn oed yn amgylchiadau heriol iawn y ddwy flynedd ddiwethaf mewn gwirionedd. Ac mae hynny wedi golygu cynnig dull cyfunol, ac rwy'n siŵr na fyddai'r un ohonom eisiau ei weld fel y norm, ond mae wedi bod yn ffordd o gynnal profiad myfyrwyr, a hynny gyda rhywfaint o arloesedd ar rai campysau yn arbennig, rwy'n credu. Lle mae myfyrwyr yn teimlo bod ganddynt bryder penodol am gwrs penodol, mae ganddynt hawl i'w drafod â'u hundebau myfyrwyr—byddwn yn eu hannog i wneud hynny—a thrwy'r prifysgolion eu hunain.