Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar Cyfrwng Cymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:57, 2 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Gan weithio gyda phartneriaid, yn cynnwys awdurdodau lleol a Mudiad Meithrin, rydym yn buddsoddi'n sylweddol mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg drwy ein grantiau cyfalaf, y rhaglen Sefydlu a Symud, a'n buddsoddiad yn y gweithlu. Rydym hefyd yn ariannu lleoedd cyfrwng Cymraeg drwy Dechrau'n Deg, y cynnig gofal plant, a'n darpariaeth addysg gynnar.