Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 2 Mawrth 2022.
A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei ymateb? Fis diwethaf, bûm yn agoriad swyddogol ysgol newydd Tan-y-lan, ysgol fy wyrion, a’r mis hwn, byddaf yn mynd i agoriad ysgol newydd Tirdeunaw. O'r chwe ysgol gyfun yn Abertawe, mae tair wedi'u hailadeiladu ar yr un safle, un wedi'i hadnewyddu'n llwyr ac un yn ysgol gymharol newydd. Yr unig ysgol sydd wedi cael gwaith brys arni yn unig yw Ysgol yr Esgob Vaughan, yr ysgol Gatholig leol. A wnaiff y Gweinidog gyfarfod â Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig, Cyngor Abertawe a’r ysgol i drafod ffordd o ailadeiladu’r ysgol ar y safle presennol?