Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 2 Mawrth 2022.
Mae swyddogion yn ystyried hynny yn y ffordd rydych yn ei hawgrymu yn eich cwestiwn ar hyn o bryd. Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnewch, sef ei bod yn hanfodol fod mynediad at weithgareddau chwaraeon a gweithgareddau corfforol mewn ysgolion ar gael ac yn hygyrch i'n holl ddysgwyr. Credaf fod honno’n egwyddor sy’n ategu pwysigrwydd iechyd a lles yn ein cwricwlwm newydd, a gwneuthum araith ychydig wythnosau yn ôl lle roeddwn yn awyddus i bwysleisio bod y cwricwlwm yn gwricwlwm i’n holl ddysgwyr, ac felly mae angen meddwl amdano yn y ffordd honno, a byddwn yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud o ran dysgu proffesiynol ac adnoddau i sicrhau bod y rhan honno o’r cwricwlwm mor gynhwysol ag y gall fod.