Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 2 Mawrth 2022.
Mae COVID-19 wedi amharu ar bron bob rhan o’n bywydau, ond i lawer o bobl ifanc, maent wedi colli'r cyfleoedd cyntaf hollbwysig hynny i gymryd rhan mewn chwaraeon sy’n eu diddori a’u cyffroi, a dyma rai o’r blynyddoedd ffurfiannol pwysicaf. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o'r manteision y gall chwaraeon eu creu i les corfforol a meddyliol ein pobl ifanc, ac mae'n rhaid inni sicrhau nad yw plant yn colli’r manteision hynny am flynyddoedd i ddod oherwydd y pandemig.
Pa rôl y mae’r Gweinidog yn gweld ein hysgolion yn ei chwarae wrth sicrhau bod ein cenhedlaeth ieuengaf yn dal i gael y cyfleoedd hyn, a beth arall y gallwn ei wneud i annog mwy o gyfranogiad mewn chwaraeon mewn ysgolion?