Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 2 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn. Dwi wedi bod yn trio cael datrysiad i hyn drwy'r DVSA a drwy ofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ers rhyw wyth mlynedd, dwi'n meddwl, erbyn hyn. Mae o mor rhwystredig. Yn syml iawn, mae croeso ichi wneud prawf theori'n Gymraeg, ond does yna ddim deunydd ymarfer ar-lein, ffug brofion ac ati, ar gael o gwbl. Dwi'n gwybod am lawer oedd eisiau gwneud prawf theori yn Gymraeg, ond wnaeth ddewis gwneud yn Saesneg oherwydd hyn, a dwi'n gallu deall pam. Dwi'n gwybod hefyd am rai sy'n teimlo eu bod nhw wedi bod dan anfantais wedyn oherwydd nad oedd y prawf yn eu hiaith gyntaf.
Rŵan, mi gafodd Cai Phillips, cyn-Aelod o'r Senedd Ieuenctid, afael ar ffigurau drwy gais rhyddid gwybodaeth yn dangos bod 382 o bobl wedi gwneud prawf gyrru ymarferol yn Gymraeg yn 2018-19, ond dim ond 53 wnaeth y prawf theori yn Gymraeg. Mae'r patrwm yr un fath mewn blynyddoedd eraill hefyd. Ac fel rydyn ni wedi'i glywed, mae'r DVSA yn dweud, 'Dim ni sydd angen gwneud hyn; mater i'r sector breifat ydy o a does yna ddim cystadleuaeth am y Gymraeg.' Ond allwn ni ddim gadael hyn i lawr i rymoedd y farchnad, mae angen ymyrraeth.
Rŵan, mae cyn-Weinidogion, ac fel rydyn ni wedi'i glywed, Comisiynydd y Gymraeg, wedi dweud eu bod nhw'n rhannu fy anfodlonrwydd i, ond plis gawn ni fwy o ymrwymiad na'r ychydig eiriau yna, er mor bositif ydyn nhw, i bwyso ar y DVSA ac yn wir i weithio ar y DVSA—i weithio efo nhw—a pheidio ag ildio rŵan tan mae hyn yn newid, nid yn unig oherwydd ei fod o'n bwysig o ran egwyddor, ond oherwydd yr angen ymarferol am y profion yma?