Data Biometrig

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:48, 2 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

O'n cyfarfod ym mis Rhagfyr, rwy'n gwybod y byddwch yn ymwybodol na allwn atal ysgolion yn gyfreithiol rhag casglu a defnyddio data biometrig. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r trafodaethau a'r materion y mae'r Aelod wedi ein helpu i'w deall yn well, mae swyddogion wrthi'n adolygu'r canllawiau i ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau, pan gaiff data ei gasglu a'i ddefnyddio, ei fod yn cael ei wneud yn y ffordd briodol.