Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 2 Mawrth 2022.
Weinidog, rwyf wedi gweld budd data biometrig mewn ysgolion, fel cynghorydd awdurdod lleol. Fe'i cyflwynwyd i helpu i leihau'r stigma ynghylch prydau ysgol am ddim. Pan fo pawb yn defnyddio'r un ciw a'r un system dalu, mae'n lleihau'r perygl o fwlio ac aflonyddu. Fodd bynnag, mae rhai rhieni a phlant yn poeni, ac yn poeni'n briodol, ynglŷn â'r defnydd o'r data biometrig a lle mae eu manylion yn cael eu storio ac a ydynt yn ddiogel. Felly, Weinidog, a wnewch chi achub ar y cyfle hwn i dawelu meddwl rhieni ac unigolion pryderus ynghylch risg tramgwyddau data yn dilyn gosod dyfeisiau biometrig, ac a allwch chi gadarnhau a fu unrhyw achosion o dramgwyddau data mewn ysgolion neu golegau ledled Cymru? Diolch, Lywydd.