Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 2 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna. Rŵan, beth bynnag ydy sbin Llywodraeth Geidwadol San Steffan, y gwir ydy y bydd y cytundeb yma yn gadael ffermwyr Cymru ar fympwy marchnad nad sydd ganddyn nhw unrhyw reolaeth drosto. Os bydd rhywbeth yn newid yn y farchnad gig oen, yn arbennig o safbwynt Tsieina neu'r Unol Daleithiau, yna bydd llawer iawn mwy o gig o Seland Newydd yn cyrraedd y glannau yma neu'r Undeb Ewropeaidd, gan danseilio ein ffermwyr ni. Heb dariff, does gan ffermwyr Cymru ddim dweud a dim byd i'w hamddiffyn. Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio ers talwm y bydd y cytundebau masnach yma yn cael effaith andwyol ar ffermwyr Cymru. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhagamcan y bydd effaith y cytundeb gydag Awstralia, er enghraifft, yn arwain at gwymp o £29 miliwn yn GVA diwydiant cig coch Cymru. Tra nad ydy o'n bosib inni wneud yr un rhagamcangyfrifon ar gyfer cytundeb efo Seland Newydd, mae'r data sydd ar gael yn awgrymu y bydd effaith y ddau gytundeb yma yn arwain at gwymp o rywle oddeutu £50 miliwn yn GVA marchnad cig coch Cymru.
Hoffwn i ofyn i chi fel Gweinidog, felly: ydych chi'n credu bod hyn yn bris sydd yn werth ei dalu? Mae ffermwyr Cymru'n fwy agored i niwed a ddaw o gytundeb gwael na ffermwyr eraill y wladwriaeth hon. Hefyd, ydy'r Gweinidog yn cytuno â fi fod angen i Lywodraeth San Steffan gynnal asesiad llawn o'r cytundebau masnach yma ar ffermwyr Cymru?