Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 2 Mawrth 2022.
Wrth i mi ddirwyn i ben, rwy'n myfyrio ar eiriau mab enwocaf Talacharn, Dylan Thomas, a ddywedodd am Gymru, 'Gwlad fy nhadau? Gall fy nhadau ei chael!' Mentraf ddweud, Ddirprwy Lywydd, fod y bardd Cymreig mor anghywir yn awr ag yr oedd bryd hynny. Yn wir, Cymru yw'r lle gorau ar y ddaear, a chredaf ei bod yn iawn inni gael gwyliau cenedlaethol i adlewyrchu a chydnabod hynny. Diolch.