6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:11, 2 Mawrth 2022

Yn y cyfnod yna, mae fy nhad i wedi colli'r gallu i siarad yn llwyr, ond mae ei eiriau, a thrwy hynny ei lais, yn parhau. Terfynodd ei araith drwy ddyfynnu geiriau anfarwol ein nawddsant,

'Frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain.'

Aeth fy nhad, Ddirprwy Lywydd, ymlaen yn bellach i ddweud:

'Sylwch ar y geiriau "byddwch lawen", sydd yn golygu dathlu, mwynhau a, phwy a ŵyr, cael diwrnod o wyliau efallai? Pwy ydym ni i anwybyddu dymuniadau'r gŵr mawr?'

Wel, gyfeillion, 22 o flynyddoedd yn ddiweddarach, nid yn unig y mae dymuniadau'r gŵr mawr, Dewi Sant, wedi cael eu hanwybyddu, ond hefyd, dro ar ôl tro—