Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 2 Mawrth 2022.
Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc yma yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, am arwain y ddadl yma yn y Senedd heddiw. Bydd gŵyl banc ar ein diwrnod cenedlaethol yn dod â'n cenedl ynghyd i ddathlu ein hanes, ein cyflawniadau, ein diwylliant unigryw a'n hamrywiaeth.
Fel rhywun a anwyd ac a fagwyd ac sy'n byw yng Nghasnewydd, efallai na fydd hyn yn syndod i chi, ond rwy'n siŵr y byddai fy niweddar dad wedi cefnogi'r cynnig hwn heddiw, yn union fel y byddai tad Jack Sargeant wedi'i wneud hefyd. Ni chafodd fy nhad ei eni yng Nghymru, ond dewisodd wneud Cymru'n gartref iddo, ac efallai mai ef oedd y dadleuwr mwyaf brwd dros Gymru imi erioed gwrdd ag ef. Ar wahân i hynny, teimlai fod ganddi botensial aruthrol ym mhob agwedd ar fywyd, o'r economi i addysg a thrafnidiaeth hefyd. Roedd eisiau creu Cymru well i bawb ac roedd yn ymrwymedig i ddod â'n cymunedau amrywiol at ei gilydd. Byddai gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi yn rhoi cyfle i bobl ledled Cymru, boed wedi eu geni yma neu beidio, uno i werthfawrogi a dathlu'r lle yr ydym i gyd yn ei alw'n gartref. Fel y dywedodd Jane Dodds, byddai'n rhoi cyfle inni dalu teyrnged i'n harwyr ac wrth i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod agosáu, ein harwyr benywaidd o Gymru. Fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, byddai'n amser i fyfyrio ar ein hanes a'i ddathlu.
Gwn mai un o'r dadleuon a gyflwynwyd yn erbyn y cynnig hwn yw'r gost i'r economi. Fodd bynnag, gadewch inni fod yn glir: nid yw'r cynnig hwn yn ymwneud â chreu gŵyl banc newydd, mae'n ymwneud â symud un gŵyl banc sy'n bodoli eisoes, naill ai Calan Mai neu ŵyl banc y gwanwyn, o fis Mai i fis Mawrth, fel y gallwn ddathlu diwrnod ein nawddsant. Fel y dywedodd Rhys ab Owen yn gynharach, mae gwledydd datganoledig eraill yn y DU eisoes yn gwneud hyn. Gwnaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon Ddydd Sant Padrig yn ŵyl banc yn ôl yn 2000, a gwnaeth Senedd yr Alban yr un peth ar gyfer Dydd Sant Andrew yn 2006. Pam y dylid amddifadu pobl Cymru o'r un fraint? Ceir cefnogaeth eang ymhlith y cyhoedd i gam o'r fath. Nododd arolwg barn gan BBC Wales yn 2006 fod 87 y cant yn cefnogi'r syniad, ac mae dros 10,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ddiweddar o blaid yr argymhelliad.
Mae hefyd yn braf fod y cynnig hwn wedi cael cefnogaeth gan bob plaid a gynrychiolir yn y Senedd heddiw. Byddai hefyd yn anfon neges gref i'r Cymry ar wasgar a'r rhai sy'n falch o'u treftadaeth Gymreig sy'n byw mewn rhannau eraill o'r DU, neu sy'n byw dramor, y gallant ddathlu gyda ni ar y diwrnod arbennig hwn bob blwyddyn. Ceir cymdeithasau Cymreig mewn mannau mor bell oddi wrth ei gilydd â Llundain ac Affrica, fel y soniodd Sam Kurtz yn ei gyfraniad, yn Efrog Newydd, ac fel y dywedodd Tom Giffard, yn Osaka hefyd. Roedd yn wych gweld mab y Seneddwr Gweriniaethol dros Utah a chyn-ymgeisydd am Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau, Mitt Romney, yn gwisgo crys rygbi Cymru cyn y gêm yn erbyn Lloegr. Mae hyn yn dangos ei falchder yn ei dreftadaeth Gymreig ar ochr ei fam, Ann Romney, a oedd yn wyres i löwr o'r Cymoedd.
Felly, Ddirprwy Lywydd, nid oes gennym bŵer yma i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc; mae'r pŵer gyda Llywodraeth y DU yn San Steffan. Byddai'r cynnig hwn, os caiff ei basio, yn ein galluogi i weithio'n adeiladol gyda San Steffan i sicrhau gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi i Gymru. Rwy'n annog y Senedd i siarad ag un llais i sicrhau'r newid hwn. Diolch yn fawr iawn.