6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:08, 2 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Os yw'r Deyrnas Unedig yn undeb o genhedloedd cydradd, fel y mae'r unoliaethwyr cyhyrog a'r unoliaethwyr nad ydynt mor gyhyrog yn hoff o'i ddweud, byddai cydraddoldeb rhwng y cenhedloedd—cyfle cyfartal i ni ddathlu, dawnsio, canu a gorffwys ar ddiwrnod ein nawddsant. Ac fel y dywedodd Tom Giffard, yn ystod y 22 mlynedd diwethaf, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi creu gwyliau banc ychwanegol i ddathlu eu nawddseintiau, ac rwy'n gobeithio y bydd ein cymdogion yn Lloegr yn gwneud yr un peth yn fuan. Nid ydym yn gofyn am—.