Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 2 Mawrth 2022.
Gwelliant 2 fydd nesaf—gwelliant 2, wedi'i gyflwyno gan Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mi oedd y bleidlais yna unwaith eto yn gyfartal—26 o blaid, 26 yn erbyn—ac felly dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly, canlyniad y bleidlais yn derfynol ar welliant 2 yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal a 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod. Dyw'r cynnig na'r gwelliannau wedi'u derbyn, ac felly, does dim byd wedi'i dderbyn.