Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 8 Mawrth 2022.
Llywydd, yn ôl eich gwahoddiad, rwyf wedi siarad yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn dadleuon ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol ym mhob un o'r pedair wythnos diwethaf. Mae pobl yn blino clywed gennyf yn awr. Yn wir, ers dechrau'r tymor newydd ym mis Ionawr, rwyf wedi siarad ar gynigion o'r fath yn ystod chwech o'r wyth eisteddiad dydd Mawrth. Y rheswm yr wyf yn dweud fy mod yma ar ran y pwyllgor a'r Senedd hon yn wythnosol yw oherwydd bod hyn braidd yn ddigynsail. Efallai y bydd angen i ni ddod i arfer â'r dwysedd hwn o Filiau'r DU hyd y gellir rhagweld. Os felly, ymddiheuraf i'r Aelodau am fy hollbresenoldeb deddfwriaethol. Nid wyf i'n disgwyl i'r Gweinidog, o reidrwydd, fynd i'r afael â nifer y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol yr ydym yn eu hwynebu, ond mae'n werth nodi hynny.
Roedd ein hadroddiad ar y memorandwm gwreiddiol yn fyr, a bydd fy sylwadau y prynhawn yma hefyd yn eithaf cryno. Mae'r un argymhelliad yn yr adroddiad a gyflwynwyd gennym yn ymwneud â deddfu da. Dyma lle yr wyf am brofi'r Gweinidog ychydig yn fwy y prynhawn yma. Yn y memorandwm gwreiddiol ar gyfer y Bil hwn, dywedodd y Gweinidog wrth y Senedd,
'nad oes llawer o dystiolaeth i awgrymu a yw dyled rhent tenantiaethau busnes sydd heb ei thalu yn broblem fawr yng Nghymru ai peidio'.
Roedd hynny'n gwbl glir. Er nad swyddogaeth ein pwyllgor ni yw gwneud sylwadau o reidrwydd ar yr amcanion polisi sy'n sail i gynigion deddfwriaethol, bu'n rhaid i ni ofyn, o'n safbwynt ni, y cwestiwn: pam wedyn mynd ar drywydd pwerau gweithredol i Weinidogion Cymru mewn Bil y DU pan nad oes tystiolaeth glir bod angen pwerau newydd yma yng Nghymru? Mae'n sail i ddeddfu da. Felly, Gweinidog, er fy mod yn croesawu, yn wir, eich bod wedi ymateb i'n hadroddiad ddiwedd yr wythnos diwethaf, sylwaf fod y ffigur amcangyfrifedig yr ydych wedi'i ddarparu i ni o ran nifer yr achosion rhent masnachol a allai fynd drwy'r cynllun cymrodeddu mewn gwirionedd yn ffigur ar gyfer y DU gyfan. Efallai, yn eich dehongliad chi, fod elfen gyfrannol o'r rheini a fydd yn dod o fewn Cymru. Os felly, ar y sail mai egwyddor o gyfraith dda—ac nid wyf yn gyfreithiwr; mae gan y Gweinidog fwy o hyfforddiant cyfreithiol na mi—yw y gallwch ddangos yr angen am y gyfraith honno, byddai ychydig mwy o eiriau o esboniad heddiw ar y cofnod o'r cyfiawnhad a'r rhesymeg dros gymryd y pwerau hyn fod o gymorth i'r Senedd.
Cyn cloi, hoffwn dynnu sylw'r Senedd at gasgliad 1 yn ein hadroddiad. Unwaith eto, mae gennym bryderon mai'r ffordd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru o ymdrin â'i phryderon ynghylch cymal 9 o'r Bil hwn yw ceisio gwelliant i'w gwneud yn ofynnol i ymgynghori â Gweinidogion Cymru a chydsyniad gweinidogion Cymru cyn i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer y pŵer i wneud rheoliadau cymal 9. Mae'r Gweinidog wedi egluro bod hynny'n fantais o ran Gweinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn wir y mae. Mae hynny'n ddi-ddadl, ac mae'n sicr bod llawer o waith wedi mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni yno, yn adeiladol, i gael hynny. Felly, mae swyddogaeth gydsynio i Weinidogion Cymru bellach wedi'i chynnwys yn y Bil. Fodd bynnag, heb geisio swnio fel hen dôn gron, mae perygl yn y fan hyn y bydd swyddogaeth y Senedd o ran craffu yma fel y ddeddfwrfa yng Nghymru yn cael ei hosgoi. Felly, unwaith eto, er mwyn profi hyn ychydig ymhellach, Gweinidog, yn eich ymateb i gloi, byddai'n ddefnyddiol cofnodi pam y bernir ei bod yn briodol ac yn gymesur cymryd y pwerau penodol hyn i Weinidogion Cymru fel swyddogaeth weithredol, yn hytrach na chaniatáu i'r Senedd fynegi ei llais yn llawnach ac yn awtomatig ar reoliadau dilynol. Gweinidog, efallai fod gennych resymau da iawn dros wneud hynny, ond felly byddai'n ddefnyddiol eu cofnodi heddiw. Diolch fel bob amser, Llywydd, i fy nghydweithwyr yn y pwyllgor a'r tîm clercio arbenigol am eu dadansoddiad diwyd, ac i'r Senedd a'r Gweinidog wrth i ni dynnu sylw at y materion manwl hyn. Diolch yn fawr.