Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 8 Mawrth 2022.
Diolch, Llywydd, a diolch i Huw Irranca-Davies, yn gweithredu fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth a Chyfiawnder. Dylwn ddweud fy mod yn ddigon bodlon gwrando ar dinc tyner a thawel llais Mr Irranca-Davies ar sawl achlysur yn y Siambr hon, ac mae'n debygol y bydd llawer mwy, o gofio ei bod yn debygol y bydd mwy o ddeddfwriaeth a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried a ydym yn fodlon bod â Biliau'r DU neu Filiau Cymru a Lloegr yn mynd i'r afael â swyddogaethau sydd wedi'u datganoli ai peidio. Mae rhywfaint o hynny wedi bod yn ymateb angenrheidiol i'r pandemig. Fodd bynnag, mae hefyd yn realiti bod gwahaniaeth yn y dull gweithredu yn Llywodraeth y DU mewn rhai o'r meysydd hyn. Mae rhai rhannau o Lywodraeth y DU yn fwy bodlon a chadarnhaol ynghylch gweithio gyda chyfrifoldebau datganoledig, ac mae eraill yn mabwysiadu ymagwedd wahanol.
Nid wyf yn credu bod angen i ni gael dadl am undeboliaeth gyhyrol heddiw, ond rydym yn debygol o fod â mwy o ddeddfwriaeth pryd y bydd angen dod i'r Senedd. Gobeithio, yn y dyfodol, na fyddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwn lle mae'n gyfres munud olaf o newidiadau y cytunwyd arnyn nhw, oherwydd hoffwn i'r Senedd gael y cyfle i arfer swyddogaethau craffu'n briodol. Rwy'n cofio sut beth oedd bod yn Aelod o'r meinciau cefn a gweld pethau'n digwydd ar fyr rybudd, a'r rhwystredigaeth, hyd yn oed os oes materion yr ydych yn cytuno â nhw, o beidio bod a'r amser i'w hystyried yn iawn.
Os ymdriniaf â'r pwynt pwerau yn gyntaf, a pham eu bod yn bwerau gweinidogol, wel, mewn ystod eang o ddeddfwriaeth mae Gweinidogion yn cymryd pwerau i arfer mewn is-ddeddfwriaeth, fel y byddwch yn gyfarwydd â hi mewn Senedd arall, ac mewn swyddogaethau eraill yr ydych wedi'u cael o fewn eich bywyd eich hun fel Gweinidog hefyd. Yn y mater penodol hwn, nid yw'n anarferol. Ac nid dim ond ei fod yn anarferol; mewn gwirionedd, pe bai angen i ni ymestyn y pwerau hyn, mae'n debyg y byddai angen i ni symud yn gymharol gyflym, ac fel y gŵyr pawb, mae gwahanol lefelau o graffu, yn hytrach na dim craffu, pan fydd Gweinidogion yn arfer pwerau rheoleiddio. Felly, hyd yn oed gyda'r weithdrefn negyddol, mae cyfleoedd i graffu ac yn y bôn i Aelodau alw i mewn ddewisiadau sy'n cael eu gwneud.
Mae'r darpariaethau cydsyniad yn bwysig, oherwydd fel arall yr hyn a fyddai wedi digwydd yw y byddem ni naill ai wedi cadw Cymru allan o'r Bil, neu byddem ni wedi bod â darpariaethau lle byddai Gweinidogion y DU wedi gweithredu yn ein lle ni. Mae'n mynd at eich pwynt am gyfraith dda. Er nad yw'n fater ar raddfa fawr, mae'n bosibl yr effeithir ar gannoedd o fusnesau yng Nghymru, o'r 7,500 ledled y DU. Nid ydym yn rhagweld y bydd y sefyllfa'n wahanol yng Nghymru o ran y gallai fod heriau y byddai angen i landlordiaid a thenantiaid mewn perthynas fusnes eu datrys, a rhan o'n her ni yw nad yw'r materion hynny wedi'u crisialu hyd yma.
Nid ydym yn debygol o fod â landlordiaid a busnesau yn dweud yn wirfoddol wrthym eu bod yn y sefyllfa hon, felly'r dewis yw: a oes gennym broblem sy'n bodoli yn ein barn ni? Yr ateb yw 'oes'. A ydym ni'n credu ei fod yn debygol o effeithio ar fusnesau Cymru? Ydym. Er nad yw'n fater ar raddfa fawr, os oes un mater—dyweder, er enghraifft, yn etholaeth yr Aelod neu'r llall—ac nid oes gennym y pwerau i fynd i'r afael â'r mater, mae'n ddealladwy y bydd yn peri pryder, a phryder gwirioneddol, ynghylch pam nad ydym wedi manteisio ar y cyfle i allu rheoli'r sefyllfa. Rwy'n credu mai'r peth iawn yw peidio â gadael bwlch i Gymru, nid ein gadael mewn sefyllfa lle mae Gweinidogion y DU yn gweithredu mewn meysydd datganoledig, ond cael darpariaethau cydsyniad priodol lle y gall Gweinidogion Cymru weithredu fel yr wyf yn credu y byddai'r sefydliad hwn yn dymuno i ni ei wneud, ac yna i fod yn atebol am ein dewisiadau yn ôl yn y lle hwn hefyd.
Gobeithio bod hynny'n ateb y cwestiynau, a gobeithio y bydd yr Aelodau nawr yn teimlo y gallant gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron.