– Senedd Cymru am 5:12 pm ar 8 Mawrth 2022.
Y ddadl nesaf fydd ar eitem 9, y ddadl ar gyfraddau trethi incwm. Dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7941 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2022-23 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;
b) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt;
c) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.
Diolch, Llywydd. Diolch am y cyfle i agor y ddadl hon ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2022-23. Cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymru ym mis Ebrill 2019 ac maen nhw'n berthnasol i dalwyr treth incwm sy'n byw yng Nghymru. Mae cyfraddau treth incwm Cymru yn codi tua £2 biliwn bob blwyddyn tuag at ariannu cyllideb Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd cyfraddau Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn y gyllideb ddrafft. Ni fydd unrhyw newidiadau i lefelau treth incwm Cymru yn 2022-23.
Bydd hyn yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu'r un dreth incwm â'u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a bydd hyn yn parhau i roi rhywfaint o sefydlogrwydd i drethdalwyr yn ystod cyfnod o ansicrwydd a heriau economaidd byd-eang ehangach. Ynghyd â'r arian a geir drwy'r grant bloc, mae trethi Cymru yn hanfodol i helpu i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, wrth i ni ymdrin ag effaith y mesurau pandemig, fel ffyrlo, yn ogystal â'r argyfwng costau byw a'r effeithiau sy'n cael eu teimlo'n awr o ganlyniad i'r ymosodiad ar Wcráin, bydd diogelu'r gwasanaethau hyn yn dod yn fwy heriol. Yn ogystal ag ystyried effaith economaidd coronafeirws, mae angen i ni gydnabod bod pobl yng Nghymru yn wynebu argyfwng costau byw na welwyd ei debyg o'r blaen sy'n cael ei ysgogi gan filiau ynni sy'n codi'n aruthrol. Mae prisiau bwyd, tanwydd, ynni, dillad, teithio a rhent o ddydd i ddydd i gyd yn codi wrth i chwyddiant godi.
Dangosodd cipolwg Sefydliad Bevan ar dlodi nad oes gan fwy na thraean o aelwydydd Cymru ddigon o arian i brynu dim y tu hwnt i'r hanfodion bob dydd, a'u bod yn gorfod torri'n ôl ar eu gwres, eu trydan a'u dŵr, ac mae chwarter yn gorfod cwtogi ar fwyd i oedolion. Ochr yn ochr â hyn, mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol ar ben y newidiadau treth a gyhoeddwyd ganddi yn flaenorol yn ei chyllideb ym mis Mawrth 2021 yn golygu bod teuluoedd eisoes yn wynebu cynnydd sylweddol yn eu baich treth o fis Ebrill ymlaen. Mae'r Resolution Foundation wedi cyfrifo bod teuluoedd yn wynebu ergyd o £1,200 o fis Ebrill wrth i filiau ynni a threthi godi.
Mae hyn i gyd yn golygu ei bod yn amlwg nad dyma'r amser i ystyried newidiadau i gyfraddau treth incwm Cymru. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, sy'n gyfrifol am weinyddu cyfraddau treth incwm Cymru. Rwy'n ffyddiog bod ein prosesau cadarn a'n perthynas waith dda â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn darparu sail gref ar gyfer defnyddio cyfraddau treth incwm Cymru yn effeithiol ac yn effeithlon wrth symud ymlaen. Rwy'n falch o adrodd bod ffigurau alldro cyntaf cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2019-20 wedi'u cyhoeddi gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi y llynedd. Roedd y ffigurau alldro yn agos at y rhagolygon, gan roi sicrwydd pellach bod y broses ragweld a'r data ar ddiwedd y broses binio yn gadarn. Disgwylir i'r alldro nesaf ar gyfer 2020-21 gael ei gyhoeddi'r haf hwn, a hon fydd y flwyddyn gyntaf pan fydd yr alldro yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru, gydag unrhyw addasiadau gofynnol yn cael eu gwneud i'r gyllideb yn 2023-24 yn unol â'r cytundeb fframwaith cyllidol.
Byddaf wrth gwrs yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hyn wrth i ni symud ymlaen, ac edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw. Gofynnir i'r Senedd heddiw gytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru a fydd yn pennu cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2022-23, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth y prynhawn yma.
A gaf i gadarnhau y bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r drefn o barhau i rewi cyfraddau treth incwm Cymru? Ac rwy'n cydnabod yr holl bwysau hynny ar deuluoedd a rannwyd gan y Gweinidog ac, yn wir, rwy'n ofni y gallai pethau waethygu, yn amlwg, oherwydd yr hyn sy'n digwydd yn nwyrain Ewrop.
Fodd bynnag, os caf i, rwyf eisiau gwthio'r Gweinidog ychydig ymhellach ynghylch yr angen i egluro bwriadau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran cyfraddau treth incwm Cymru ac, yn benodol, yr ymrwymiad i beidio â chymryd mwy o ran cyfraddau treth incwm Cymru oddi wrth deuluoedd Cymru am o leiaf gyhyd ag y bydd effaith economaidd y coronafeirws yn para ac, yn amlwg, y pwysau eraill hyn y maen nhw'n eu profi nawr. Yn llythyr y Gweinidog at y Pwyllgor Cyllid, rwy'n cydnabod bod y Gweinidog wedi dweud bod angen ystyried rhagolygon ariannol Cymru yn y dyfodol, yn ogystal â'r pwysau presennol sy'n wynebu teuluoedd o ran costau byw wrth benderfynu ar gynlluniau trethu yn y dyfodol. Ac rwy'n credu bod yr olaf, yn arbennig, yn ystyriaeth y gall pob un ohonom ni yn y Siambr gytuno â hi. Ond nid oedd ymateb y Gweinidog mewn gwirionedd yn egluro beth yw meddylfryd tymor canolig y Llywodraeth o ran i ba gyfeiriad yr ydym ni'n mynd. Roedd yr ansicrwydd sy'n wynebu trethdalwyr Cymru yn rhywbeth a amlygwyd yn sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor Cyllid gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Fe wnaethon nhw awgrymu bod yr ymrwymiad wedi cyflawni ei ddiben, a bod angen diffiniad mwy manwl arnom ni, yn hytrach nag un y gellir ei ddehongli mewn sawl ffordd wahanol.
I grynhoi, Llywydd, rwy'n credu y gallai Llywodraeth Cymru fod yn fwy clir wrth nodi sut y mae'n rhagweld defnyddio ei phwerau trethu yn y tymor canolig i'r hirdymor, ac i roi terfyn ar yr ansicrwydd presennol, ac i ganiatáu i'r Senedd ddechrau ystyried y cynlluniau hyn a'u heffaith bosibl ar incwm pobl. Diolch.
Fyddwn ninnau chwaith ddim yn gwrthwynebu'r cynnig yma, ac ar hyd yr un trywydd, dwi innau hefyd yn gofyn am well eglurder, a dweud y gwir, ynglŷn â bwriad y Llywodraeth fan hyn, oherwydd mi wnaethoch chi yn y Senedd ddiwethaf, wrth gwrs, wrthod amrywio trethi am weddill y Senedd, fel roeddech chi'n dweud bryd hynny. Nawr, fel rŷn ni wedi clywed, rŷch chi'n dweud na fyddwch chi yn amrywio lefel y dreth tra bod effaith economaidd y pandemig yn parhau. Y cwestiwn yn ei hanfod yw, wel, beth mae hynny'n feddwl, achos mi fydd effaith economaidd y pandemig gyda ni am flynyddoedd lawer? Ydych chi felly'n awgrymu na fydd yna unrhyw amrywio'n digwydd yn lefel y dreth yn ystod y Senedd yma? Dwi ddim yn dadlau bod angen, o reidrwydd, amrywio, ond yn sicr, fel rŷn ni wedi clywed, mae amgylchiadau'r creisis costau byw a'r amgylchiadau yn nwyrain Ewrop yn golygu efallai y bydd angen hyblygrwydd arnom ni i ostwng trethi, efallai, mewn ymateb i galedi costau byw, neu hyd yn oed i gynyddu trethi i greu refeniw ychwanegol.
Rŷch chi'n dweud eich bod chi'n gwneud y datganiad yna er mwyn rhoi rhyw fath o sicrwydd i bobl. Wel, dwi ddim yn teimlo'i fod e yn rhoi sicrwydd, a dweud y gwir, oherwydd beth mae e'n gwneud yw cicio'r penderfyniad lawr yr hewl, heb awgrym a ydy e'n rhywbeth y byddwch chi mewn gwirionedd yn barod i'w ystyried yn ystod y Senedd yma o gwbl.
Y Gweinidog i ymateb i'r cyfraniadau yna.
Rwy'n ddiolchgar i'r ddau siaradwr yn y ddadl y prynhawn yma, ac yn cydnabod yr ymholiad penodol sydd ganddyn nhw ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i beidio â chynyddu treth incwm cyhyd ag y bydd effaith economaidd y pandemig yn para. Mae effaith economaidd y coronafeirws, gan gynnwys ei hyd, ei raddfa a'i waddol wrth gwrs yn cael ei monitro'n barhaus, ac yn enwedig yn awr yng ngoleuni'r digwyddiadau pryderus ac ofnadwy yn Wcráin. Rwy'n credu ei bod yn rhy gynnar i gymryd barn, o ystyried effaith dirwyn y mesurau pandemig i ben. Felly, rydym yn dal i ddechrau teimlo effaith diwedd y ffyrlo, er enghraifft. Mae angen i hynny weithio'i ffordd drwodd o ran y farchnad swyddi, felly mae llawer eto nad ydym wedi'i deimlo'n llawn o ran effaith y pandemig. Ac, wrth gwrs, ar yr un pryd, rydym yn gweld y materion sy'n ymwneud â phrisiau ynni a chyfyngiadau cyflenwi eraill, yn ogystal â phrinder llafur, sy'n dal twf yn ôl a chwyddiant cynyddol ac yn rhoi pwysau ar gyflogau. Felly, mae llawer o bethau'n digwydd ar hyn o bryd sy'n amlwg yn golygu nad dyma'r adeg iawn i ystyried newidiadau i gyfraddau treth incwm Cymru.
Ond rwyf am wneud y pwynt ein bod yn sôn am ddau beth ar wahân, mewn gwirionedd, yn yr ystyr nad oes trothwy pryd, os bydd yr economi'n perfformio yn y ffordd benodol hon bryd hynny, y byddwn ni'n ystyried nad ydym bellach yn teimlo effeithiau'r pandemig. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y bydd yn sbarduno cynnydd neu ostyngiad yng nghyfraddau treth incwm Cymru. Felly, rwy'n credu bod angen i ni ystyried y sefyllfa economaidd gyffredinol a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i deuluoedd ac i drethdalwyr yng Nghymru, ond wedyn peidio ag awgrymu, pe baem yn cyrraedd pwynt penodol o'r adferiad, y byddai'n arwain yn awtomatig at gynnydd neu ostyngiad, oherwydd bydd y pethau hynny'n cael eu hystyried bryd hynny. Mae'n ddrwg gennyf na allaf fod yn fanylach ar hyn o bryd, ond mae cymaint o rannau yn symud o hyd fel na allwn gael y darlun hwnnw mewn gwirionedd.
Ac fe wnaf fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud mai Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, sy'n cynyddu'r baich treth ar bobl ac ar aelwydydd yng Nghymru, a bydd hyn yn dechrau cael ei deimlo o fis Ebrill ymlaen. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi adrodd bod Llywodraeth y DU, drwy'r cynnydd arfaethedig mewn yswiriant gwladol, a gyhoeddwyd ym mis Medi, a hefyd y cynnydd yn y dreth gorfforaethol a phersonol, a oedd yng nghyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth, wedi codi'r baich treth o 33.5 y cant o'r cynnyrch domestig gros cyn y pandemig i 36.2 y cant o'r cynnyrch domestig gros erbyn 2026-27, a dyna ei uchaf ers dechrau'r 1950au. Felly, er ein bod hefyd yn ystyried effaith y pandemig a'r adferiad economaidd, mae angen i ni hefyd ddeall y baich treth cyffredinol ar drethdalwyr, fel bod yn rhaid i benderfyniadau y gallem ni eu gwneud yn y dyfodol gael eu hystyried yn gyffredinol o ran y cyfrifoldebau a osodir ar drethdalwyr gan Lywodraeth y DU hefyd.
Felly, fe'i gadawaf i hi yn y fan yna am heddiw, Llywydd, a gofynnaf i fy nghyd-Aelodau am eu cefnogaeth i gyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.