Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 8 Mawrth 2022.
Er na chawsom unrhyw arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU, drwy reoli'r gyllideb yn gyfrifol, rydym wedi gallu mynd y tu hwnt i'r disgwyl gan ddyblu'r cymorth cyfatebol sydd ar gael yn Lloegr. Ac mae hyn yn cynnwys £90 miliwn i ymestyn y ddarpariaeth bresennol o'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf am flwyddyn arall ac i'w ddarparu y gaeaf nesaf, ac mae hyn yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael y taliad o £200 sy'n darparu cymorth hanfodol.
Byddwn yn parhau i gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf i dalu am gostau hanfodol, drwy £15 miliwn ychwanegol i ymestyn y gronfa cymorth dewisol hyd at 31 Mawrth 2023. Buddsoddwyd deng miliwn o bunnau mewn amrywiaeth o fesurau cyfiawnder cymdeithasol i gefnogi'r aelwydydd mwyaf agored i niwed i helpu i gynyddu eu hincwm i'r eithaf er mwyn helpu i dalu costau cynyddol aelwydydd. Ac mae £28.4 miliwn yn cael ei ddarparu i ymdrin â llwgu yn ystod y gwyliau, sy'n cynnwys £21.4 miliwn i ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim dros y Pasg, y Sulgwyn a gwyliau'r haf, a £7 miliwn arall ar gyfer y rhaglen Haf o Hwyl, sy'n rhoi mynediad i weithgareddau am ddim i blant a phobl ifanc yn ystod gwyliau'r ysgol.
Rydym yn darparu £13.1 miliwn ar gyfer y grant datblygu disgyblion, gan ddarparu swm ychwanegol o £100 i bob blwyddyn ysgol i fynd i'r afael â chostau'r diwrnod ysgol, gan gynnwys pecyn addysg gorfforol a chostau gwisg ysgol ychwanegol, ac rydym yn darparu pecyn cymorth gwerth £2 filiwn i deuluoedd sy'n agored i niwed, sy'n cynnwys buddsoddiad o £1 filiwn ar gyfer taliadau atal i deuluoedd ag anghenion gofal a chymorth, ac £1 miliwn i gefnogi teuluoedd sy'n gofalu am blant sy'n derbyn gofal.
Rydym hefyd yn cydnabod bod hwn yn ddarlun sy'n esblygu, gyda chynnydd mewn biliau cartrefi a chyfraniadau yswiriant gwladol yn dechrau effeithio o fis Ebrill, yn ogystal â chynnydd yng nghost nwyddau ac effeithiau yn y cadwyni cyflenwi cysylltiedig, a'r effeithiau y gwyddom yn awr y byddant yn cael eu teimlo o ganlyniad i'r ymosodiad ar Wcráin.
Eisoes, rydym yn sefyll mewn undod diamwys â phobl Wcráin yn wyneb ymosodiad Putin. Yr wythnos diwethaf, darparwyd £4 miliwn gennym mewn cymorth dyngarol, yn 2021-22, a roddwyd i'r Pwyllgor Argyfyngau i sicrhau ei fod yn cyrraedd y rhai sydd ei angen mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl. A'r wythnos diwethaf, ochr yn ochr â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, cyfarfûm ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, arweinwyr awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru, yr heddlu a'r trydydd sector i gadarnhau ein penderfyniad unfrydol i gynnig pob cymorth posibl i dderbyn pobl sy'n dianc rhag y trais yn Wcráin.
Gan droi'n ôl at ein cyllideb derfynol, hoffwn ddiolch i bwyllgorau'r Senedd am graffu ar ein cyllideb ddrafft. Mae hyn yn rhan annatod o'n proses, ac mae'n dderbyniol iawn, i warantu ein bod yn cyflawni'r gorau ar gyfer Cymru.
Mae'r gyllideb derfynol hon hefyd yn cynnwys £184 miliwn ychwanegol o gyfalaf trafodiadau ariannol, dyraniadau i gefnogi ymhellach y gwaith o gyflawni ein blaenoriaethau yn y strategaeth buddsoddi mewn seilwaith 10 mlynedd newydd i Gymru, ac mae llawer o'r eitemau hyn yn ymateb i bwyntiau a godwyd yn ystod y broses graffu. Gan adeiladu ar ein portffolio presennol o fuddsoddiadau gwerth £1.7 biliwn, mae'r buddsoddiadau newydd hyn yn cynnwys £37 miliwn i wella'r seilwaith gwefru, er mwyn helpu i hwyluso'r newid i gerbydau carbon isel ac allyriadau isel; £10 miliwn ar gyfer Tai Ffres i gefnogi llwybr tai amgen y cynllun ar gyfer y rhai rhwng 16 a 25 oed nad ydynt yn bodloni'r trothwy ar gyfer gwasanaethau digartrefedd; £35 miliwn i gyflymu'r broses o ddatgarboneiddio cartrefi Cymru; £25 miliwn arall ar gyfer y cynllun benthyca Trawsnewid Trefi, i sicrhau bod adeiladau gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto; a £40 miliwn arall i gefnogi busnesau yng Nghymru drwy ein cronfa dyfodol yr economi bresennol.
Gan edrych ymlaen at ddatganiad gwanwyn Llywodraeth y DU ar 23 Mawrth, rydym yn cydnabod mai'r prif ddulliau o drechu tlodi, fel pwerau dros y systemau trethu a lles, yw pwerau a gadwyd yn ôl, a Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am eu defnyddio. Galwaf ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i ymateb i'r argyfwng a wynebwn, ochr yn ochr â pharhau i annog Llywodraeth y DU i roi arian i ni i gymryd lle arian yr UE, sydd wedi arwain at fwlch cronnol o £1 biliwn yn ein cyllidebau.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n falch ein bod wedi nodi cyllideb sy'n cyflawni ein gwerthoedd ac yn darparu sylfaen ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach, ac edrychaf ymlaen at y ddadl.