Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 8 Mawrth 2022.
Mae'r pwyllgor yn croesawu'r £162.4 miliwn a ddyrannwyd yn y gyllideb derfynol i helpu'r rheini y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio arnyn nhw, gyda £1.6 miliwn o hwnnw wedi'i ddyrannu ar gyfer y gronfa gynghori sengl i gynnig cyngor a chymorth ar gynyddu incwm i'r eithaf. Gwnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i godi proffiliau grantiau a chynlluniau a gynlluniwyd i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, fel bod pobl yn ymwybodol o'r ystod o gymorth ariannol sydd ar gael a sut i gael gafael arno. Rydym yn falch o glywed bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgyrch ac yn datblygu cyfres o ddeunyddiau a fydd yn cael eu darparu ar sawl platfform i sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn ymwybodol o'u hawliau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r ymgyrchoedd hyn dargedu'r bobl fwyaf agored i niwed i sicrhau nad ydyn nhw ar eu colled. Rydym wedi argymell o'r blaen y dylid cael dull 'dim drws anghywir' o gael mynediad at wasanaethau, ac rydym yn parhau i alw am un pwynt mynediad yn hytrach na nifer o geisiadau am gymorth. Dim ond os yw'n cyrraedd y bobl iawn y gall cymorth fod yn effeithiol.
Nid yw'r gyllideb derfynol yn cynyddu'r cymorth i ryddhad ardrethi busnes, rhywbeth y gofynnodd y pwyllgor i'r Gweinidog ei ystyried yn ei adroddiad. Gofynnwyd hefyd i'r Gweinidog flaenoriaethu buddsoddi mewn seilwaith digidol, a rhoi pwyslais penodol ar gefnogi buddsoddiad mewn seilwaith digidol a helpu manwerthwyr bach a busnesau eraill i ddatblygu sgiliau digidol a phresenoldeb ar-lein. Yn ymateb y Gweinidog i'r argymhelliad hwn, mae'n nodi bod Busnes Cymru yn rhoi un pwynt cyswllt i fusnesau ac entrepreneuriaid ar gyfer gwybodaeth a chyngor, a bod Banc Datblygu Cymru yn helpu busnesau Cymru i gael y cyllid sydd ei angen arnyn nhw i ddechrau. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod unrhyw gamau penodol wedi'u cymryd yn y maes hwn.
Nid oedd dyraniadau ar gyfer cyfalaf trafodiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y gyllideb ddrafft, gyda'r Gweinidog yn dweud wrthym y bydden nhw'n cael eu gwneud fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y gyllideb derfynol. Gwnaethom argymell y dylid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y dyraniadau i'r pwyllgor cyn i'r gyllideb derfynol gael ei gosod. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ddarparu'r wybodaeth hon. Nododd y Gweinidog y cyfyngiadau a'r cymhlethdodau o ran sut y gellir defnyddio trafodiadau ariannol wedi'u neilltuo, a'r amserlenni y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu dilyn i ddatblygu cynigion yn dilyn cyhoeddiad hwyr yr adolygiad o wariant y DU. Fodd bynnag, rydym yn falch o glywed na fydd hyn yn gosod cynsail, gyda'r bwriad y bydd dyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol yn y dyfodol yn cael eu hystyried fel rhan o broses y gyllideb ddrafft.
O ystyried pwyslais y Gweinidog ar adeiladu Cymru wyrddach drwy'r gyllideb hon, mae'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi egluro pa ymrwymiadau penodol i Gymru Sero Net sydd wedi'u hariannu yn y gyllideb derfynol. Fel pwyllgor, gofynnom hefyd i'r Gweinidog gyflwyno gwybodaeth gyllidebol fel ei bod yn gysylltiedig ag allbynnau ac effeithiau, yn ogystal â rhoi eglurder ynghylch sut yr adlewyrchir ariannu ymrwymiadau polisi sy'n ymwneud â'r cytundeb cydweithredu yn nyraniadau'r gyllideb yn y dyfodol, ond nid yw'n ymddangos bod y rhain wedi cael sylw ychwaith. At hynny, nid yw'n glir pa effaith y bydd chwyddiant yn ei chael ar gostau Llywodraeth Cymru, a hoffem i'r Gweinidog gadarnhau a fydd hyn yn newid y canlyniadau a ddisgwylir o gyllideb y flwyddyn nesaf, gan dybio na dderbynnir unrhyw arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn gofyn i'r Gweinidog ymateb i bob un o'r pwyntiau hyn yn eu tro.