Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 8 Mawrth 2022.
Yn ôl at realiti, hoffwn i yn fawr iawn ganmol y Gweinidog cyllid am reoli'r gyllideb, oherwydd prin y gallai hyn fod yn gyfres anoddach o amgylchiadau y mae pobl Cymru yn eu hwynebu. Mae eich gallu i nodi £162 miliwn yn ychwanegol ar gyfer yr argyfwng costau byw yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ac yn arwydd o'ch rheolaeth ragorol o arian y Llywodraeth.
Y bore yma, es i i fy manc bwyd lleol a siaradais â llawer o'r bobl a oedd yn aros i gael eu gwasanaethu, ac mae'n anhygoel, yn wir, faint o bobl sy'n dioddef a'r gwahaniaeth sydd rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn ein cymdeithas. Diolch i Sefydliad Bevan am eu ffigurau 'State of Wales' sy'n dangos bod teuluoedd incwm isel yn gwario £35 yr wythnos ar fwyd; mae teuluoedd incwm uchel yn gwario £99 yr wythnos ar fwyd. Mae teuluoedd incwm isel yn gwario £60 yr wythnos ar dai; mae teuluoedd incwm uchel yn gwario £120 yr wythnos ar dai. Ac mae'n eironig, onid yw, fod y banc bwyd hwn sydd yn un o rannau tlotaf fy etholaeth i yn cael ei wasanaethu gan bobl sydd eu hunain ar incwm cymedrol iawn, ac mae'n nodweddiadol mai'r tlawd sy'n fwy hael na'r bobl sydd â mwy o arian? Ac mae sut yr ydym yn newid hynny yn gwestiwn pwysig iawn mewn cysylltiad â'r hyn yr oedd Llyr yn ei ddweud: sut mae gwneud yr arian sydd gan Gymru fynd ymhellach? Felly, rwy'n credu bod hynny'n fater pwysig iawn i bob un ohonom.
Yn benodol, rwy'n credu, yng nghyd-destun yr hyn y dylem ni allu ei weld o'n blaenau, fod pethau fel y cynnydd yn y grant datblygu disgyblion, y taliadau bwyd yn ystod y gwyliau, y gronfa cymorth dewisol a chymorth tanwydd y gaeaf yn eithriadol o bwysig. O ran y taliad cymorth tanwydd y gaeaf, hoffwn ganmol Cyngor Caerdydd am fynd yn rhagweithiol at eu holl denantiaid y mae ganddo fanylion cyswllt ar eu cyfer i sicrhau eu bod yn hawlio'r hyn yr oedd ganddyn nhw hawl iddo. Mae'n llawer iawn anoddach sicrhau bod tenantiaid y sector preifat yn cael yr arian hwnnw oherwydd ei bod yn llawer anoddach nodi pwy sy'n gymwys. Ac rwy'n credu mai un o'r problemau yw ei fod yn swnio fel yr un sy'n dod fel ad-daliad gan Lywodraeth y DU ar gyfer pobl hŷn. Mae cryn dipyn o bobl hŷn yn drysu—yn ôl yr hyn maen nhw'n ei ddweud, 'O, ond rwyf wedi ei gael yn barod', pan nad ydyn nhw, mewn gwirionedd, wedi hawlio'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig. Mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i ni feddwl amdano ynglŷn â sut yr ydym am ei ddisgrifio ychydig yn wahanol, fel bod pobl yn gliriach ynglŷn â hynny. A byddai'n ddefnyddiol gwybod pryd y gallech chi ddweud wrthym faint o bobl a wnaeth fanteisio ar daliad tanwydd y gaeaf y llynedd ac a yw'n bosibl ei ddadansoddi yn ôl ardal ddaearyddol/awdurdod lleol, fel y gallwn ni weld ble nad yw pobl yn hawlio'r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo, gan fy mod i'n credu bod hwn yn fater gwirioneddol bwysig iawn.
Rwy'n falch iawn bod cyllideb y comisiynydd plant wedi cael ei chynyddu gan fy mod i'n credu, fel y mae pobl eraill wedi ei ddweud, fod plant wedi cael dwy flynedd eithriadol o anodd, felly mae gan y comisiynydd plant lwyth gwaith ychwanegol ac mae'n bwysig iawn bod hynny'n cael ei ariannu'n briodol. Mae'n aneglur o hyd ar ba sail y caiff y comisiynwyr eraill eu hariannu. Rwy'n gwybod bod trafodaethau'n parhau gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ond pa gyllideb ydych chi'n mynd i'w hysbeilio er mwyn rhoi unrhyw gynnydd os profir bod ganddi achos da?
Roeddwn i eisiau archwilio'r dyraniad cyfalaf trafodiadau ariannol. Felly, o'r £83 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae angen ad-dalu £31 miliwn. Newyddion gwych, mewn gwirionedd, oherwydd ei bod yn ffordd ddefnyddiol iawn o sicrhau bod pobl yn cael gwneud y pethau y mae angen iddyn nhw eu gwneud os ydym yn cynnig benthyciad iddyn nhw ac yna'u bod yn ei ad-dalu. Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am hynny? A yw hon yn gronfa arian y gellid ei defnyddio i helpu landlordiaid i gael benthyciadau i ddatgarboneiddio eu heiddo, oherwydd bod rhai o'r cartrefi oeraf yn y sector rhentu preifat? A ellid ei ddefnyddio i alluogi ysgolion, ysbytai ac adeiladau cyhoeddus eraill i gael eu hailadeiladu neu eu hôl-ffitio i ddatgarboneiddio eu hadeiladau presennol?