11. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2022-23

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 8 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:23, 8 Mawrth 2022

Rwyf innau hefyd eisiau cychwyn fy nghyfraniad i i'r ddadl yma yn y man dyledus, sef i ddiolch i gynghorau, i gynghorwyr ac i swyddogion a staff yr awdurdodau lleol am y gwaith aruthrol maen nhw wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw wedi profi, os oedd angen profi efallai—dwi ddim yn meddwl bod—pwysigrwydd yr haen yna o lywodraethiant, yr haen agosaf efallai i'r ffas lo. Mi wnaethon nhw gamu i fyny, wrth gwrs, a chreu'r atebion bespoke, perthnasol, yn adlewyrchu anghenion eu cymunedau lleol nhw mewn modd y byddai llywodraeth genedlaethol ddim yn gallu ei wneud. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny ac yn cadw hynny mewn cof pan ddaw'n drafodaethau ar siâp llywodraeth leol yn y blynyddoedd i ddod.

Mae setliad o gynnydd o 9.4 y cant yn rhywbeth i'w groesawu. Mae'n sicr yn fwy, efallai, nag oedd nifer o fewn llywodraeth leol wedi disgwyl, ac efallai y gallwn ni ddweud ei fod e'n hael, yn sicr ar yr edrychiad cyntaf. Ond pan ŷch chi wedyn yn sylweddoli mai'r realiti yw bod nifer o'r elfennau a ariannwyd y tu allan i'r RSG yn y gorffennol nawr yn rhan o'r setliad, ac os ychwanegwch chi y gefnlen yna rŷm ni wedi clywed amdani, o gostau yn cynyddu, chwyddiant yn mynd i fod yn sylweddol uwch, efallai, na fyddai rhai ohonom ni wedi rhagweld ac, yn wir, y byddai neb ohonom ni yn dymuno, a'r ymrwymiad i godiadau cyflog, sydd wrth gwrs yn berffaith iawn i'w wneud, yn sydyn iawn efallai fod y setliad ddim yn edrych mor hael ag y byddai fe wedi gwneud fel arall.

Mae blwyddyn 1 yn dweud un stori, ond mae blynyddoedd 2 a 3 yn dweud stori arall hefyd, onid ydynt? Oherwydd mae'r setliad yn fflat, wedyn, onid yw e, am yr ail a'r drydedd flwyddyn i bob pwrpas. Ac felly os ydyn ni yn cydnabod efallai fod yna elfennau heriol yn mynd i fod yn y flwyddyn i ddod, wel, mae hynny'n mynd i ddwysáu yn sylweddol yn y blynyddoedd y tu hwnt i hynny. Felly, rwy'n credu bod angen reality check, er ein bod ni wrth gwrs yn croesawu y cynnydd. Mae mawr ei angen e oherwydd mi fydd pwysau aruthrol yn dal i fod ar y cyllid hwnnw, a'r angen yn dal i fod hefyd wedyn, wrth gwrs, i gynyddu treth y cyngor ac yn y blaen, er mwyn ceisio gwneud i fyny neu geisio ymateb i'r pwysau yna. 

Er ein bod ni'n dod allan o un argyfwng, wrth gwrs, sef COVID, rŷm ni yn gwbl ymwybodol o'r argyfyngau newydd sydd yn ein cwmpasu ni nawr, o safbwynt costau byw a'r sefyllfa yn Wcráin, ac yn y blaen, ac mae hynny yn mynd i wneud sefyllfa anodd yn waeth. Mae costau bwyd yn cynyddu, mae costau tanwydd yn cynyddu, ac mae'r goblygiadau o safbwynt awdurdodau lleol yn sylweddol—o safbwynt ysgolion a'r gwasanaeth addysg, gofal, a llu o wasanaethau eraill. Mae costau yn cynyddu ar union yr un pryd ag y bydd galw am nifer o wasanaethau awdurdodau lleol yn cynyddu hefyd. Felly, y cwestiwn yw, yn ei hanfod: faint o sgôp sydd yna i gamu i'r adwy flwyddyn nesaf os bydd pethau yn gwaethygu yn fwy, efallai, na'r hyn rŷm ni'n ei rhagweld? I ba raddau y mae gan y Llywodraeth gynlluniau neu gyllid wrth gefn i fedru camu i mewn, petai angen gwneud hynny?

Dwi hefyd eisiau ategu y pwynt a wnaethpwyd ynglŷn â'r fformiwla ariannu ac ailadrodd, i raddau, yr hyn a ddywedwyd ychydig o wythnosau yn ôl yn y ddadl honno. Tra ei bod hi'n iawn fod y Llywodraeth yn edrych ar sut mae pres cynghorau yn cael ei gasglu drwy dreth y cyngor, dwi yn teimlo ei bod hi hefyd yn amserol i edrych ar sut mae'r arian yna yn cael ei rannu. Ac nid dim ond edrych ar y fformiwla in isolation, ar ben ei hunan; mae angen edrych ar y darlun ehangach o ariannu awdurdodau lleol. Oherwydd dwi'n clywed mewn adborth gan awdurdodau lleol bod nifer o'r cyfrifoldebau newydd sydd wedi dod i lywodraeth leol sydd i fod yn gost niwtral mewn gwirionedd yn dod â chost mewn sawl gwahanol ffordd. Dwi ddim yn teimlo, efallai, fod yna gyfle wedi bod i edrych ar y darlun global pan fo'n dod i'r sefyllfa gyllido yna. Mae'r fformiwla wedi dyddio. Dŷn ni'n cytuno gyda hynny, ac rŷm ni hefyd yn derbyn, wrth gwrs, beth bynnag yw'r fformiwla, mi fydd yna enillwyr a chollwyr, wrth gwrs. Ond dwi yn teimlo y byddai adolygiad annibynnol yn hynny o beth yn rhywbeth amserol hefyd.