Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 8 Mawrth 2022.
Bydd y Bil amaethyddiaeth, wrth gwrs, yn cefnogi cynhyrchu bwyd gan ffermwyr Cymru, ac mae angen, mae'r Aelod yn iawn, ystyried natur newidiol y farchnad yn hynny o beth. Ond, bydd y Bil amaethyddiaeth hefyd yn gwobrwyo ffermwyr gweithgar sy'n cynhyrchu nwyddau cyhoeddus y mae'r cyhoedd yn barod i dalu amdanyn nhw. Bydd y ddwy agwedd hynny ar y Bil yn parhau i fod yn bwysig. Lle gall ffermwyr gynhyrchu bwyd y mae marchnad ar ei gyfer, bydd y Bil yn darparu'r mecanweithiau ar gyfer cefnogi hynny, ond mae pethau pwysig iawn eraill y mae ffermwyr yn eu gwneud yr ydym ni'n credu fod gan y cyhoedd ddiddordeb yn eu cefnogi, a bydd y Bil yn darparu ar gyfer yr agweddau hynny hefyd.