Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 8 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:56, 8 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'n amhosibl peidio â meddwl am y nifer fawr o fenywod hynny o Wcráin, llawer ohonyn nhw â phlant, wedi blino, wedi'u trawmateiddio, yn anobeithiol, ar ôl teithio allan o ardal ryfel ac ar draws cyfandir Ewrop dim ond i gael eu troi i ffwrdd yn Calais gan swyddogion Llywodraeth y DU a chael clywed bod yn rhaid iddyn nhw fynd i Baris neu i Frwsel i wneud cais am fisa. Ble mae dyngarwch Llywodraeth Prydain pan fo'n gwneud rhywbeth mor ofnadwy o oergalon â hynny? Cymharwch hynny â'r carpedi coch a gyflwynwyd a'r fisâu euraid a roddwyd i ffrindiau oligarch Rwsiaidd Prif Weinidog y DU. Cymharwch hynny â'r sefyllfa yng Ngweriniaeth Iwerddon, sydd eisoes wedi croesawu dros 1,800 o ffoaduriaid heb fisâu, chwe gwaith y nifer sydd wedi cael fisâu gan y DU hyd yn hyn, gwladwriaeth 10 gwaith maint Gweriniaeth Iwerddon. Onid yw'n bryd i Lywodraeth y DU ddangos y synnwyr o frys moesol y mae sefyllfa o'r difrifoldeb hwn, yr argyfwng ffoaduriaid mwyaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd, yn deilwng ohono?