Y Gronfa Gwella Eiddo mewn Canolfannau Trefol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 8 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:27, 8 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, daeth y gronfa y mae'r Aelod yn cyfeirio ati i ben ym mis Ebrill y llynedd. Mae ei rhaglen olynol yn cynnwys rhestr estynedig o ffyrdd y gellir cymhwyso cyllid i wella canolfannau trefol, ac mae'r buddsoddiad hwnnw yn parhau i fod ar gael ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.