Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 8 Mawrth 2022.
Llywydd, ein strategaeth yw defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu yn uniongyrchol ac yn ddwyieithog â'r cyhoedd, yn enwedig y cynulleidfaoedd hynny sy'n ymgysylltu llai â chyfryngau confensiynol. Rydym ni'n darparu gwybodaeth gyflym, awdurdodol mewn ffurfiau sy'n eglur, yn ddifyr ac yn hygyrch i bawb.