Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 8 Mawrth 2022.
Diolch, Prif Weinidog, a byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi rhoi cymorth ariannol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i asesu'r gwaith sydd ei angen i sicrhau bod ffordd y B5605 yn cael ei defnyddio unwaith eto ar ôl tirlithriad mawr. Prif Weinidog, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi gadarnhau a yw'r cyngor, o ganlyniad i'r cymorth ariannol hwn gan Lywodraeth Cymru, bellach wedi gallu cyflwyno cais am gyllid ar gyfer y gwaith atgyweirio ei hun, ac os felly, byddwn yn ddiolchgar iawn am benderfyniad buan a phenderfyniad â chydymdeimlad ar hynny gan Weinidogion, o ystyried swyddogaeth unigryw'r ffordd hon fel gwythïen amgen sy'n cefnogi'r gogledd pan fydd cefnffordd yr A483 ar gau.