Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 8 Mawrth 2022.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon: mae angen cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn galluogi ni i drafod yr LCM ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws). Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.