4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru Gryfach, Decach, Wyrddach: Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 8 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:21, 8 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hi'n bleser bod yn ôl yn y Siambr heddiw.

Yn y rhaglen lywodraethu, rydym ni'n nodi'r camau y byddwn ni'n eu cymryd yn ystod y tymor Seneddol hwn i helpu i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl a bod pawb yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial. Heddiw, mae hi'n bleser gennyf lansio'r cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, i nodi'r hyn y byddwn ni'n ei wneud. Mae hwn yn amlygu ein blaenoriaethau o ran polisi a buddsoddi, ynghyd â sut yr ydym yn disgwyl cynyddu ein pwyslais ar gyflawni ac ar weithgarwch ein partneriaid. Ac rydym ni'n gwneud hyn wrth adeiladu ar y gwelliant sylweddol sydd wedi bod yn y farchnad lafur ac o ran sgiliau yng Nghymru ers cyhoeddiad y cynllun diwethaf yn 2018.

Cyrhaeddodd anweithgarwch economaidd ei gyfradd isaf erioed yn 2018, ac fe ostyngodd yn is na chyfradd y DU am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2018. Erbyn diwedd 2019, roeddem ni wedi cyrraedd ein nod o gau'r bwlch diweithdra gyda'r DU, ac mae'r cyfraddau yn parhau i fod yn is na rhai'r DU heddiw. Ac roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer chwarter olaf 2021 yn uwch nag ar unrhyw gyfnod cyn cyflwyno'r cynllun diwethaf ym mis Mawrth 2018. Ac, wrth gwrs, mae cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed sydd mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant erbyn hyn yn agos at y gyfradd uchaf a gofnodwyd erioed. Mae cyfran y bobl rhwng 18 a 64 oed heb unrhyw gymwysterau wedi gostwng mwy na 1 y cant, ac mae cyfran y rhai sydd â chymwysterau addysg uwch wedi cynyddu 4 y cant.

Rydym ni'n nodi ein cynllun newydd heddiw yng nghyd-destun y ffaith nad yw effeithiau COVID-19 ar y farchnad lafur wedi bod mor ddifrifol ag yr ofnwyd, ac mae cynnydd mawr wedi bod o ran cyflogi gweithwyr unwaith eto. Mae hyn wedi arwain at y gymhareb isaf erioed o ddiweithdra i swyddi gwag yn y DU. Serch hynny, wrth edrych ymlaen, rydym ni'n wynebu nifer o risgiau a heriau newydd: cyfraddau uchel o swyddi gwag, prinder gweithwyr allweddol, poblogaeth sy'n heneiddio, a mwy o bobl yn gadael y farchnad lafur cyn eu hamser oherwydd afiechyd—ac yn enwedig y rhai dros 50 oed.

Mae gorbenion busnes cynyddol, yr argyfwng costau byw ac effeithiau ar safonau byw i gyd yn heriau y bydd angen i ni fynd i'r afael â nhw. Ac, wrth gwrs, y gwirionedd trist amdani yw bod yr ymosodiad ar Wcráin yn nodi dechrau'r argyfwng dyngarol mwyaf ar ein cyfandir mewn degawdau. Ar yr un pryd, mae mynediad anghyfartal a darpariaeth annigonol o waith teg a'r bwlch cyflog o ran rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd yn dal i fodoli. Mae gwahaniaethau sylweddol yn parhau rhwng grwpiau, fel cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl a rhieni sengl.

Nawr, wrth fynd i'r afael â'r cynllun, rwy'n gwybod na allwn, o gyllideb Llywodraeth Cymru, ddod o hyd i'r holl filiynau a gollwyd oherwydd y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi cadw ei haddewidion i Gymru o ran ariannu yn dilyn ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Fel y gŵyr yr Aelodau, fe fydd Cymru yn colli tua £1 biliwn dros y blynyddoedd nesaf, ac fe fyddai llawer o'r arian hwnnw a gollodd Cymru wedi cael ei fuddsoddi mewn gwella cyflogadwyedd a sgiliau. Mae hynny'n golygu fy mod i, ynghyd â fy nghyd-Weinidogion, wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd o ran blaenoriaethu cyllidebau, ar gyfer parhau i fuddsoddi yn ein pobl ni a'u sgiliau. Wrth gwrs, fe fyddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gefnogi ein huchelgeisiau tîm Cymru o ran buddsoddi yn nhalent ein pobl a chael y £1 biliwn a gollwyd yn ôl i Gymru. Rwy'n gobeithio y bydd y pleidiau ar draws y Senedd hon yn unfryd yn y pen draw o ran y mater allweddol hwn ar gyfer dyfodol y bobl yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli.

Mae cefnogi pobl i aros mewn gwaith, dechrau neu symud ymlaen gyda chyflogaeth, a chynyddu eu sgiliau a'u cyflogadwyedd yn hanfodol i chwyddo'r gronfa o dalent sydd ar gael, a chefnogi pobl i gael gwaith teg a chynnydd yn y farchnad lafur. Mae'r gallu i gael gafael ar waith teg yn cefnogi incwm a bywoliaeth aelwydydd yn ogystal ag iechyd a lles y gweithwyr.

Mae'r cynllun newydd yn nodi pum maes gweithredu allweddol yn ystod tymor y Llywodraeth hon, a ddylai ein harwain ni at ein cerrig milltir i'r tymor hwy. Y cyntaf o'r rhain yw darparu gwarant i bobl ifanc o ran diogelu cenhedlaeth gyfan rhag effeithiau addysg a gollwyd ac oedi cyn dechrau ar gyflogaeth. Rwy'n falch o lansio Twf Swyddi Cymru+ heddiw yn rhan o hynny. Fe fydd hyn yn darparu'r elfennau mwyaf llwyddiannus o'r rhaglenni hyfforddeiaethau a Thwf Swyddi Cymru i gynnig y cymorth gorau posibl i bobl ifanc.

Yr ail yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd, gan roi mwy o bwyslais ar helpu'r rhai sydd bellaf i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith, i wella canlyniadau'r farchnad lafur i bobl anabl, a chymunedau ethnig leiafrifol, menywod a'r rhai sydd â lefelau sgiliau is. Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar batrwm Swyddi Gwell yn Nes at Adref, wrth gefnogi cyflogaeth a pharhau â'n dull o bartneriaeth gydag awdurdodau lleol.

Y trydydd yw hybu gwaith teg i bawb, gan ddefnyddio ein hysgogiadau i wella'r cynnig sydd ar gael i weithwyr. Mae hynny'n cynnwys cyflwyno'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus ac, wrth gwrs, parhau â'n hanogaeth i gyflogwyr i wneud gwaith yn fwy diogel, gwell, tecach ac yn fwy sicr.

Y pedwerydd yw rhoi mwy o gymorth i bobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor allu canfod gwaith. Mae hyn yn cynnwys angori'r gwasanaeth iechyd yn well, fel cyflogwr a phartner y rhwydwaith cyflenwi hefyd, i atal pobl rhag mynd yn ddi-waith neu golli cyflogaeth oherwydd cyflwr gofal iechyd.

A'r olaf yw cynyddu cyfraddau sgiliau a hyblygrwydd ein gweithlu drwy ehangu addysg hyblyg a phersonol i bobl sydd mewn gwaith ac allan o waith i wella eu sgiliau nhw, a dod o hyd i waith neu ailhyfforddi. Yr wythnos diwethaf, fe estynnodd Llywodraeth Cymru'r cynnig gofal plant i allu cefnogi rhieni i ymgymryd ag addysg a hyfforddiant.

Rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i fwrw ymlaen â'n blaenoriaethau yng nghynllun 2018 i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, a chynyddu cyfraddau cyflogaeth pobl anabl, a cheisio diogelu'r cyflenwad o bobl a sgiliau ar gyfer y dyfodol. Mae'r cynllun hwn yn ymateb i randdeiliaid allweddol yn y gwaith o ddatblygu fframwaith buddsoddi rhanbarthol Cymru, y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a'r adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19'.

Wrth symud ymlaen, mae angen i ni weithio yn ddoeth a gyda'n gilydd bob amser i wneud y defnydd gorau o'n pobl a'n hadnoddau. Fe fydd y cynllun hwn yn helpu ein partneriaid ni i gysoni eu gweithgareddau â'n blaenoriaethau, ac yn helpu i sicrhau bod cyllid Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio mewn modd sy'n cefnogi yn hytrach nag yn sefyll yn ffordd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae elfennau o'r cynllun hwn yn cael eu cynnwys yn y cytundeb cydweithredu, a phan fo hynny'n berthnasol fe fydd y polisïau hyn yn cael eu datblygu gyda Phlaid Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chyd-Weinidogion ac Aelodau dynodedig Plaid Cymru i ddatblygu a goruchwylio maes gweithredu polisi traws-Lywodraethol gwirioneddol yng nghwrs y rhaglen lywodraethu hon.

Ein pobl yw ein mantais fwyaf ni, ac ni all Cymru ffynnu os na cheir mwy o gydraddoldeb o ran y gallu i ddysgu, hyfforddi a symud ymlaen yn y gwaith. I wireddu hyn bydd angen ymdeimlad cyffredin o genhadaeth gan bob partner, ar gyfer manteisio hyd yr eithaf ar ein hadnoddau i sicrhau Cymru gryfach, decach, wyrddach, gydag economi sy'n gweithio i bawb. Diolch, Dirprwy Lywydd.