Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 8 Mawrth 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad brynhawn yma? Mae'r datganiad heddiw yn ei gwneud hi'n eglur y bydd cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn cael ei wreiddio yn yr egwyddor o degwch a gyda'r bwriad o fynd i'r afael â newid hinsawdd a chreu economi lawer gwyrddach, ac felly rwy'n croesawu cynllun heddiw a'i bum maes allweddol. Dyma'r union adeg iawn i osod y sylfeini ar gyfer newid o ran darparu sgiliau i arwain at y manteision hynny yn y dyfodol. Yn gyntaf, mae angen i ni sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc ni'n gallu manteisio ar gyfleoedd, ac rwy'n falch bod un o'r pum maes blaenoriaeth yn y datganiad heddiw yn cyfeirio at y warant i bobl ifanc, sydd â'r gallu i fod yn gyfrwng i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc mewn sectorau a diwydiannau na fydden nhw efallai wedi meddwl amdanyn nhw o'r blaen. Mae hi'n gwbl hanfodol fod y cyfleoedd hyn yn berthnasol i'r sgiliau sydd eu hangen arnom ni yma yng Nghymru, a bod pobl ifanc yn ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr mewn meysydd sy'n ystyrlon. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut mae'r warant i bobl ifanc yn cael ei holrhain ar gyfer cadw golwg ar ei heffeithiolrwydd, a sut bydd honno'n sicrhau y bydd pobl ifanc yn ennill y sgiliau iawn ar gyfer y dyfodol.
Wrth gwrs, fe ddylai unrhyw gynlluniau ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau gysylltu â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r sector ôl 16 yng Nghymru, ac fe fydd yn gweithio i gysoni addysg a hyfforddiant yn nes at anghenion y cyflogwyr. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut y bydd y cynllun hwn yn cysylltu â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a pha drafodaethau y mae ef yn ei gael gyda'r Gweinidog addysg ynglŷn â hynny ac ynglŷn â'r mater ehangach o gysoni addysg a hyfforddiant ag anghenion y cyflogwyr hefyd?
Nawr, un o feysydd allweddol y cynllun yw o ran hyrwyddo gwaith teg drwy annog cyflogwyr i wneud gwaith yn fwy diogel, yn well, yn decach ac yn fwy sicr. Efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni faint o arian sydd wedi ei ddyrannu i gyflawni'r nod penodol hwn, a sut y caiff yr arian hwnnw ei ddosbarthu mewn gwirionedd.
Nawr, mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ganolog i gynllun cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru. Ac rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig ydyn nhw o ran cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r galw sydd am sgiliau rhanbarthol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, yn ogystal ag o ran nodi prinderau a chynghori ar sut i fynd i'r afael â'r prinderau hynny. Mae'r Aelodau yn gwybod bod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi edrych ar bartneriaethau sgiliau rhanbarthol yn y Senedd ddiwethaf, ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran argymhellion yr adroddiad hwnnw, ac efallai y gwnaiff ef ddweud ychydig mwy wrthym ni hefyd am waith y partneriaethau sgiliau rhanbarthol ar hyn o bryd.
Mae'r Gweinidog yn ymwybodol ei bod hi'n Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd, ac mae'n siomedig nad oes sôn am bolisi Llywodraeth Cymru o ran gyrfaoedd. Ac efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut bydd y cynllun hwn yn gweithio ochr yn ochr â pholisïau a strategaethau eraill, fel ei bolisi gyrfaoedd, parthau menter, bargeinion dinesig a thwf a rhaglen Twf Swyddi Cymru+, a lansiwyd heddiw hefyd.
Nawr, un o bum maes y cynllun yw cynyddu cyfraddau sgiliau a hyblygrwydd y gweithlu, ac rwy'n falch o ddarllen bod Llywodraeth Cymru yn ehangu'r cyfleoedd o ran addysg hyblyg a phersonol. Mae pryder weithiau ein bod ni'n canolbwyntio ar ddarparu sgiliau'r rhai sy'n gadael yr ysgol, ac mae'n rhaid i ni ystyried bod datblygu sgiliau yn rhaglen barhaus drwy gydol oes waith yr unigolyn. Ac felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn dweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog cyflogwyr i ddatblygu dull o uwchsgilio a dysgu sy'n barhaus.
Nawr, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at gymryd camau i angori'r gwasanaeth iechyd yn well, fel cyflogwr ac yn rhan o'r rhwydwaith cyflenwi i atal pobl rhag mynd yn ddi-waith, neu golli gwaith oherwydd cyflwr iechyd. Ac mae hi'n hanfodol bod mwy o gymorth ar gael i rai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am gamau cychwynnol Llywodraeth Cymru yn y maes arbennig hwn.
Mae'r datganiad yn blaenoriaethu mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd hefyd, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i wella canlyniadau'r farchnad lafur i bobl anabl, pobl ethnig leiafrifol, menywod a'r rhai sydd â sgiliau isel. Un o'r cerrig milltir o ran mesur llwyddiant y cynllun yw cau'r bwlch cyflog rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa mor hyderus yw ef y bydd y cynllun hwn yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y farchnad lafur.
Dirprwy Lywydd, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru yn eglur iawn fod symud at economi carbon isel, sero-net yn flaenoriaeth, ac, fel y dywedais i o'r blaen, rwyf i o'r farn bod angen cynnal archwiliad sgiliau sero-net ar gyfer nodi'r bylchau o ran sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau y bydd eu hangen ar ein heconomi. Ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn casglu'r wybodaeth honno, ac os yw'n gwneud hynny'n rhan o'r cynllun hwn.
Dirprwy Lywydd, mae'r Gweinidog yn iawn, ein pobl ni yw ein mantais fwyaf ni, a dyna pam mai nawr yw'r amser i fuddsoddi yn ein tirlun sgiliau, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog yn adeiladol i sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar gyfleoedd o ran addysg a hyfforddiant hanfodol ledled Cymru. Diolch i chi.