Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 8 Mawrth 2022.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad a hoffwn ategu ei theyrnged i fenywod Wcráin ar fy rhan i fy hun ac ar ran fy mhlaid.
Bu'n rhaid i fy mam-gu roi'r gorau i'w swydd pan oedd hi'n briod. Dechreuodd fy mam ei gyrfa fel athrawes ar lai o gyflog na'i chymheiriaid a oedd yn ddynion. Bues i’n gweithio'n rhan-amser am dros ddegawd oherwydd nad oeddwn i’n gallu dod o hyd i ofal plant addas. Yn ôl Fforwm Economaidd y Byd, ni fydd yr un ohonom yn gweld cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ein hoes ni, ac nid yw’n debygol y bydd llawer o'n plant yn gweld hynny chwaith. Mae gwaith brys i'w wneud, ac mae adroddiad 'Cyflwr y Genedl 2022' Chwarae Teg, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn dangos yn glir bod gan Gymru lawer o waith i'w wneud.
Neithiwr cymerais ran mewn trafodaeth a drefnwyd gan y Senedd ac a gadeiriwyd gan Jenny Rathbone am ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru—neu ddylwn i ddweud yr anghydraddoldeb sy’n cael ei achosi gan ddiffyg gofal plant. Rwy’n falch iawn, wrth gwrs, fod ehangu gofal plant am ddim yn rhan o gytundeb cydweithredu'r Llywodraeth â Phlaid Cymru, ond rydym yn gwybod bod yn rhaid i hwn fod yn gam cyntaf yn unig.
Mewn trafodaeth bord gron gyda Chwarae Teg yr wythnos diwethaf, nodwyd, wrth edrych ar ddata anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac asesu ei achosion sylfaenol, ei fod yn ymwneud bron bob amser â baich cyfrifoldebau gofalu sy'n disgyn yn anghymesur ar fenywod. Fe wnaeth eu hadroddiad ddarganfod, o'r menywod a oedd yn economaidd anweithgar, fod hyn oherwydd cyfrifoldebau gofalu am deulu 24.1 y cant o'r amser; 5.8 y cant yn unig oedd y ffigur ar gyfer dynion. Ni waeth pa bolisïau y byddwn ni’n eu rhoi ar waith ar draws yr economi, na pha gwotâu yr ydym yn eu rhoi ar waith mewn bywyd cyhoeddus, mae'n rhaid i ni greu cymdeithas lle gall menywod fanteisio ar y cyfleoedd sydd o’u blaenau. O ystyried hyn, a allai Llywodraeth Cymru amlinellu pa ddarpariaethau pellach sydd ar waith ar gyfer y menywod hyn sy'n economaidd anweithgar oherwydd eu bod yn gorfod gofalu am deulu gartref, yn enwedig gan nad yw'r cynnig gofal plant presennol ar gael i'r rhai sy'n ddi-waith?
Er mwyn sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol rhwng y rhywiau yng Nghymru, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y menywod mwyaf ymylol yn gyntaf—y menywod mewn cymdeithas sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf a'r rhai dan anfantais fwyaf. Mae'r effaith gyfansawdd, fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn eich datganiad, o'r croestoriad rhwng anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol eraill yng Nghymru yn glir. Yn ôl adroddiad 'Cyflwr y Genedl', yng Nghymru, yn 2021, roedd 78.4 y cant o ddynion yn economaidd weithgar o'i gymharu â 70.3 y cant o fenywod gwyn a oedd mewn cyflogaeth. Ond dim ond 56 y cant o fenywod o leiafrifoedd ethnig oedd mewn cyflogaeth.
Mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus, mae amrywiaeth yn hanfodol, gan mai dyma le mae penderfyniadau sy'n effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd yn cael eu gwneud. Heb gynrychiolaeth croestoriadol i fenywod, ni fydd gennym ni ystod amrywiol o leisiau yn yr ystafell sy'n caniatáu i wahanol faterion a safbwyntiau gael eu trafod a'u clywed. Mae menywod, fel yr ydym yn gwybod, eisoes wedi eu tangynrychioli mewn bywyd cyhoeddus. Er bod 43 y cant o'r cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd hon yn fenywod, mae hyn yn dal yn llai na phan wnaethom ni orffen tymor diwethaf y Senedd, ac mae gennym ni gyfran uwch o fenywod yma nag sydd gennym ni ymhlith ASau Cymru, er enghraifft, a dim ond 29 y cant o gynghorwyr Cymru sy'n fenywod.
Mewn llywodraeth leol, mae angen gwirioneddol i ni weld llawer mwy o fenywod yn cael eu hethol yn yr etholiad nesaf hwn ym mis Mai, a sicrhau bod hyn yn cyfateb i niferoedd uwch o fenywod mewn cabinetau llywodraeth leol ac fel arweinwyr. Rhan o hyn yw sicrhau bod arferion gwaith yn gweithio i fenywod; gall cynnal yr elfen rithwir i gyfarfodydd a chadw at oriau gwaith hyblyg sy'n ystyriol o deuluoedd helpu. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau gwelliant yn y gyfradd honno o 29 y cant ar gyfer ethol menywod yn gynghorwyr yn yr etholiad ym mis Mai?
Mae menywod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, cefndiroedd dosbarth gweithiol, incwm isel a menywod ag anableddau yn cael eu cynrychioli'n llai yn gyfrannol mewn ardaloedd lle bydd eu lleisiau'n cael eu clywed neu le byddan nhw’n cael y cyflog uchaf. Yng Nghymru yn 2021, roedd llai na 5 y cant o benodiadau cyhoeddus yn 2020-21 o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, ac roedd llai na 5 y cant yn bobl ag anableddau.
Mae gwaith cadarnhaol yn cael ei wneud yng Nghymru, ac rwy’n llongyfarch y Farwnes Tanni Grey-Thompson ar ei phenodiad. Rwyf hefyd yn croesawu creu'r uned tystiolaeth o gydraddoldeb ochr yn ochr â'r unedau gwahaniaethau ar sail hil ac anabledd, a fydd yn sicr o'n helpu i weld beth sy'n mynd o'i le. Fodd bynnag, mae'n rhaid gwneud mwy i sicrhau bod pawb sy'n rhan o wneud penderfyniadau am wariant a pholisi cyhoeddus yn ymgorffori dadansoddiad cydraddoldeb croestoriadol ym mhob dim maen nhw’n ei wneud. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cydraddoldeb croestoriadol a chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei ystyried yn ystod penodiadau cyhoeddus yng Nghymru, er enghraifft? A oes lle i fandadu neu annog y defnydd o gwotâu, nid yn unig yn etholiadau'r Senedd, fel yr ymrwymwyd iddo ar hyn o bryd yn y cytundeb cydweithredu, ond hefyd penodiadau cyhoeddus? A fyddai Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried gweithredu hyfforddiant cydraddoldeb rhwng y rhywiau a hyfforddiant cydraddoldeb arall i bawb sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau am wariant a pholisi cyhoeddus, er mwyn sicrhau ein bod yn ymgorffori dadansoddiad cydraddoldeb croestoriadol ym mhob dim yr ydym yn ei wneud? Diolch.