9. Dadl Fer: Diogelu mannau cymunedol: Adfer rheolaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 6:40, 9 Mawrth 2022

Diolch yn fawr iawn, Rhys, am ddod â'r ddadl yma, ac roeddwn i, wrth feddwl am hwn, yn cymryd bod y rhan fwyaf o bobl yn mynd i sôn am asedau cymunedol fath â thafarndai, capeli ac yn y blaen. Felly, dwi am ofyn i'r Dirprwy Weinidog yn benodol am ei farn ar bapur Canolfan Cydweithredol Cymru i mewn i berchnogaeth tir a datblygu tai cydweithredol. Beth sydd wedi dod yn amlwg i mi, yn sicr, ydy'r diffyg gwybodaeth sydd ar gael yng Nghymru o ran perchnogaeth tir. Pwy sydd yn berchen tir yng Nghymru a pha dir sydd yn addas i'w ddatblygu? Dwi'n awyddus i glywed os ydy'r Dirprwy Weinidog yn credu bod angen cofrestr tryloyw ar berchnogaeth tir yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae argaeledd tai yn bwysig i mi, yn benodol tai ateb y galw. Mae galluogi datblygiadau cydweithredol yn cyfarch y galw yma o ddatblygu tai fforddiadwy i ateb galw cymunedol, ac mae'n bosib galluogi mentrau lleol i gymryd perchnogaeth o eiddo neu dir lleol i'r perwyl yma, ac mae'r galw am hyn yn cynyddu. Felly, buaswn i'n falch iawn hefyd o glywed barn y Dirprwy Weinidog am sut fedr y Llywodraeth alluogi hyn. Diolch yn fawr iawn unwaith eto.