Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 9 Mawrth 2022.
Gwnaf. Rydym yn gwerthuso'r prosiectau sy'n cael eu hariannu drwy'r cynllun, ac mae hynny'n ein helpu i ddeall i ble yr awn yn y dyfodol. Wrth gwrs, nid yw pob cynllun yn llwyddiant mawr; mae'n debyg fod hynny'n rhan o bwynt y mathau hyn o brosiectau, ein bod yn profi'r hyn sy'n gweithio, ac rydym wedi cael rhai yn y gorffennol a fu'n llai llwyddiannus ond rhan o'r her wedyn yw dysgu pam na lwyddodd a'r hyn y gallwn ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.
Rydym wedi gweld cynnydd da iawn yn y cynlluniau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc mewn gofal ac sy'n gadael gofal, ac mae hwnnw'n faes penodol lle'r ydym yn bwriadu buddsoddi yn y dyfodol. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd dan arweiniad swyddogion gofal cymdeithasol i nodi'r hyn y gallwn ei wneud yn y maes hwn i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal gyda'r model arloesi i arbed hwnnw.