Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 9 Mawrth 2022.
Diolch, Weinidog. Mae trethi ar eiddo a brynir yng Nghymru ymhlith yr uchaf a godir yn y Deyrnas Unedig. Cost tŷ yn nhref Aberhonddu yn fy etholaeth i ar gyfartaledd yw £261,000. Yn seiliedig ar y pris hwn, bydd prynwr tro cyntaf, sydd wedi cael trafferth dod o hyd i'r blaendal hyd yn oed, yn talu treth o £3,000 i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cymharu â ffigur o £2,050 yn yr Alban, dim yng Ngogledd Iwerddon a dim yn Lloegr. Weinidog, a allwch egluro pam y mae eich polisi trethiant yma yn ei gwneud yn anos i'r bobl ifanc hyn yng Nghymru fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain? Ac yn eich rôl fel Gweinidog cyllid, a wnewch chi o leiaf ymrwymo i glustnodi rhywfaint o'r arian a gesglir o'r dreth trafodiadau tir i'w ddefnyddio i adeiladu tai fforddiadwy yng Nghymru i leddfu'r argyfwng tai?