Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 9 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fe wnaethoch ateb rhai o'r cwestiynau yr oeddwn am eu gofyn mewn ymateb cynharach i Peter Fox, ond yr hyn yr hoffwn gyfeirio ato, Weinidog, yw'r ffaith ichi ddweud bod y gyllideb ar gyfer iawndal wedi'i gorwario bron bob blwyddyn ers 2015, sy'n profi bod angen gwneud gwaith pwysig iawn i geisio dileu'r clefyd ofnadwy hwn ledled Cymru. A wnewch chi ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar ein sefyllfa mewn perthynas â chyflwyno brechlyn ac a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi unrhyw gamau pellach ar waith, ar wahân i'r brechlyn, i fynd i'r afael â TB buchol? Diolch.