Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 9 Mawrth 2022.
Ar y brechlyn ar gyfer moch daear, fe fyddwch yn ymwybodol o'r cynllun grant a fu gennym. Rydym yn parhau i gefnogi brechu moch daear ar ffermydd ledled Cymru. Fis Tachwedd diwethaf, rwy'n credu, cyhoeddais £100,000 ychwanegol a fyddai ar gael i ehangu'r cynllun brechu moch daear yng Nghymru. Credaf fod y dyddiad cau yfory, mewn gwirionedd, 10 Mawrth, felly hoffwn annog unrhyw un sy'n dymuno cwblhau'r ffurflen hon i wneud hynny cyn yfory, oherwydd mae'n rhoi cyfle go iawn i'n ffermwyr, i'n tirfeddianwyr ac i sefydliadau eraill frechu moch daear rhag TB buchol.