Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:42, 9 Mawrth 2022

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Dwi am barhau efo thema'r diciâu, os caf fi. Droeon dros y ddwy flynedd diwethaf, mae'r Llywodraeth yma wedi sôn am yr angen i ddilyn y wyddoniaeth pan fo'n dod at COVID. Dylid, wrth gwrs, defnyddio'r un egwyddor wrth ymdrin â heintiau eraill, megis y diciâu. Mae'r gwaith a wnaed yn ddiweddar yng Nghaerloyw a Gwlad yr Haf, lle mae moch daear wedi cael eu rheoli, wedi dangos gostyngiad o 66 y cant a 37 y cant yn y nifer o achosion o'r diciâu mewn gwartheg ar ôl pedair blynedd o weithredu. Mae Iwerddon, Seland Newydd a gwledydd eraill wedi canfod ffyrdd o fynd i'r afael â'r haint yma. Mae angen felly tynnu'r arbenigedd sydd gennym ni yng Nghymru, ac yn rhyngwladol, at ei gilydd yma er mwyn datblygu polisi a fydd yn gweithio i Gymru. A wnewch chi, Weinidog, ystyried sefydlu tasglu annibynnol i gynghori'r Llywodraeth a datblygu ymateb effeithiol sydd yn seiliedig ar y wyddoniaeth?