Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 9 Mawrth 2022.
Rai misoedd yn ôl, Weinidog, codais y Bil gyda chi a aeth drwy Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc ac a oedd yn ymwneud â chaffael lleol, ac yn benodol â gosod targedau i archfarchnadoedd gyrchu cynnyrch lleol. Mae Bil fy nghyd-Aelod Peter Fox yn mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd. Fe ddywedoch chi y byddech yn edrych ar y ddeddfwriaeth honno sydd bellach wedi'i phasio yng Nghynulliad Cenedlaethol Ffrainc. Ymddengys ei fod yn gyfrwng a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rwyf wedi bod yma ers bron i 15 neu 16 mlynedd bellach—gwn nad yw’n edrych fel hynny—[Chwerthin.]—ac nid wyf byth yn clywed unrhyw un yn anghytuno ynglŷn â chefnogi cynnyrch lleol, ond y gwir amdani yw bod mân welliannau wedi'u gwneud yma ac acw, ond nid oes unrhyw fomentwm cyffredinol y tu ôl i hyn, a chredaf y byddai cynnig deddfwriaethol fel yr un a gyflwynwyd gan y Ffrancwyr ac fel y mae fy nghyd-Aelod Peter Fox wedi'i gyflwyno yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y maes penodol hwn.