Safonau Iechyd a Lles Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:56, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, fe fyddwch yn gwybod bod llawer o sefydliadau, nid yn unig o fewn fy mhortffolio i, wedi dioddef oherwydd y pandemig, a gwnaethom bopeth yn ein gallu i'w cefnogi, yn enwedig yn ariannol. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â llawer o elusennau a sefydliadau a llochesau yn ystod fy nghyfnod yn y portffolio hwn, a chredaf mai un o'r pethau yr ydym yn sicr yn edrych arno yw pa reoliadau sydd eu hangen mewn perthynas â llochesau.