Safonau Iechyd a Lles Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:53, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae gweithio mewn partneriaeth yn un o egwyddorion allweddol ein fframwaith iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys ceidwaid anifeiliaid, awdurdodau lleol ac asiantaethau cyflawni i godi safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.