Bwyd a Diod Lleol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:57, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y cawn ein hatgoffa'n aml gan Jenny Rathbone, mae cynifer o bethau cadarnhaol yn deillio o ailadeiladu economi fwyd leol: mae'n creu swyddi, mae'n wych i'r amgylchedd hefyd, ac mae cymaint o gyfleoedd busnes rhagorol yma, gan fod y galw lleol yn llawer mwy na'r cyflenwad lleol ar hyn o bryd. Rydym wedi cael ein hatgoffa eto yn ddiweddar, onid ydym, am bwysigrwydd peidio â bod yn orddibynnol ar fewnforio bwyd i'r wlad hon. Mae angen rhoi cyfle i bobl ifanc aros yn eu cymunedau a chael eu cefnogi gan sefydliadau'r sector cyhoeddus. Nawr, roedd fy nghyfaill Rhun ap Iorwerth yn canmol cyngor Ynys Môn, soniodd fy nghyfaill Llyr Gruffydd am gyngor Caerfyrddin a Chyngor Gwynedd. Wel, Lywydd, rwyf am sôn am gyngor Ceredigion yn awr, oherwydd mae yna enghraifft wych pan wnaeth cyngor Ceredigion, dan arweiniad Plaid Cymru, yn siŵr mai'r cynnyrch lleol gorau a gâi ei gynnwys yn eu holl barseli bwyd i bobl agored i niwed yn ystod y pandemig COVID. Ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad pwysig yn y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru y bydd prydau ysgol am ddim yn defnyddio cynhwysion a gynhyrchir yn lleol, er budd i ffermydd a busnesau lleol ledled Cymru. Rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno bod mwy i'w wneud, felly a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y mater a sut y gallwn sicrhau bod bwyd lleol ar gael ac yn cael ei annog ledled Cymru ym mhob sector? Diolch yn fawr.