Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 9 Mawrth 2022.
Diolch. Mewn perthynas â rhan olaf eich cwestiwn, nid oes rôl i roi pwerau i'r RSPCA o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae hwnnw'n rhywbeth rwy'n edrych arno ochr yn ochr â materion iechyd a lles anifeiliaid eraill. Ar eich cwestiwn ynghylch cefnogi awdurdodau lleol, pan gyflwynwyd y rheoliadau y cyfeiriwch atynt, fe wnaethom edrych ar eu heffeithiau ar awdurdodau lleol, ac o safbwynt ariannol, yn y gorffennol, roedd yn ofynnol i werthwyr masnachol wneud cais am drwydded gan awdurdod lleol ac roeddent yn destun arolygiadau parhaus. Ond yn y ffordd y gwnaethom lunio'r rheoliadau newydd, rhagwelwyd y bydd y rhai sy'n gymwys i fasnachu ac sy'n bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer trwyddedu yn parhau i weithredu ac y byddent ond yn gwerthu'n uniongyrchol i'w cwsmeriaid. Byddai'r rhai anghymwys yn peidio â masnachu wedyn, ac ar y sail honno ni fyddai, neu ni ddylai fod baich ariannol ychwanegol i awdurdodau lleol. Byddant yn gallu pennu ffi newydd y drwydded, a dylai'r ffi a bennir fod yn ddigon i dalu cost ddisgwyliedig cofrestru, arolygu a gorfodi.