Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:04, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn: mae’r sector amaethyddol wedi wynebu, ac yn dal i wynebu cyfnod ansicr iawn o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd effeithiau cronnol y cytundebau masnach rydd. Fe sonioch chi yn benodol am Awstralia, sydd â safonau amgylcheddol a safonau lles ac iechyd anifeiliaid is nag sydd gennym ni. Felly, credaf fod hwn yn waith—. Rydym wedi gwneud mwy na dim ond aros am y cynllun ffermio cynaliadwy, er y credaf eich bod yn iawn, mae’n gyfle gwych i wobrwyo ein ffermwyr actif mewn modd nad oedd cynllun y taliad sylfaenol yn ei wneud. Ond rydym eisoes wedi bod yn gweithio gyda’r sector amaethyddol dros y pum mlynedd diwethaf i wneud yn siŵr ein bod yn eu cefnogi i sicrhau bod eu safonau’n uchel iawn. Mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn sicr yn rhan bwysig o’r cynllun ffermio cynaliadwy.