Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 9 Mawrth 2022.
Yr wythnos diwethaf, bu farw Dai Jones, Llanilar. Sut mae crynhoi mewn 90 eiliad yr hyn oedd a’r hyn gyflawnodd Dai Llanilar? Fe oedd y cyfuniad quirky yna o Cockney a Cardi—un o’r London Welsh a ddaeth adref. Mi oedd yn ffermwr, mi oedd yn denor dawnus a enillodd Rhuban Glas yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yna mi gychwynnodd ar yrfa ddarlledu lwyddiannus dros ben—Siôn a Siân, cyflwyno’r rhaglen Rasus am 25 mlynedd ac, wrth gwrs, Cefn Gwlad am dros 35 mlynedd. Mi ddaeth yn bencampwr i’r bywyd gwledig Cymreig, yn lais cryf i gefnogi mudiad y ffermwyr ifanc ac amryw o gymdeithasau stoc da byw a chobiau. Mi enillodd BAFTA am gyfraniad oes i ddarlledu, ac mi oedd yn llywydd y Royal Welsh yn 2010.
Ac mi oedd e’n gymeriad, yn gwneud i bobol chwerthin ac yn chwerthin ar ei hunan—pan yn cwympo mewn i’r Teifi o'i gwrwgl neu’n goesau i gyd wrth geisio dysgu sgïo ar yr Alps, y cyfan yn gwneud sioeau teledu bythgofiadwy. Dyw hi ddim yn or-ddweud i’w alw yn ffigwr eiconig, yn drysor cenedlaethol, un o’r bobol hynny oedd yn meddu ar y ddawn o fod yn gyffredin ac anghyffredin ar yr un pryd. Dyn pobol oedd Dai, yn medru cefnogi ei annwyl Elystan Morgan a Cynog Dafis—y person oedd yn bwysig. Mi ddangosodd gefnogaeth i fi hefyd, ac mi fyddai’n dweud wrthyf i ei fod yn werth fy nghefnogi i gan fod fy nhad-cu i, Tim Moelfre, wedi rhoi pris da iddo fe am loi ym mart Tregaron unwaith. [Chwerthin.] Coffa da am Dai Llanilar—diolch am fod yn gystal Cardi, cymeriad a Chymro. [Cymeradwyaeth.]