Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 9 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod yr achos dros ddatganoli plismona yn hynod o gryf. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl. Diolch i fy nghyd-gyflwynwyr, a bydd un ohonynt, Rhys ab Owen, yn ymateb i’r ddadl. Mae dadl fel hon yn rhoi cyfle i’r Senedd ddangos i ba gyfeiriad y mae am i ddatganoli fynd. Mae llawer o’r ysgogiadau sy’n effeithio ar lefelau troseddu eisoes wedi’u datganoli i Gymru, megis diogelwch cymunedol, addysg, hyfforddiant, swyddi, gwasanaethau iechyd meddwl, triniaeth alcohol a chyffuriau, tai, cymunedau iach, yn ogystal â llawer o wasanaethau eraill sy’n ymwneud â ffactorau cymdeithasol. Er mwyn mynd i’r afael â throseddu, lleihau troseddu ac aildroseddu, mae angen gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, sydd eisoes yn gweithredu ar wahanol lefelau ledled Cymru. Er enghraifft, mae cymorth i bobl â chyflyrau iechyd meddwl cyn iddynt gyrraedd sefyllfa o argyfwng lle mae angen i'r heddlu ymyrryd, ac ar ôl iddynt ddod i mewn i’r system droseddol, yn golygu gweithio gyda GIG Cymru a byrddau iechyd lleol. Pe bai pŵer plismona’n cael ei ddatganoli, credaf y byddai hynny’n caniatáu ar gyfer llawer mwy o gysylltiad rhwng gwasanaethau ar lefel leol a chan Weinidogion a gweision sifil ar lefel strategol yng Nghymru, yn hytrach na rhwng Cymru a San Steffan.
Credaf fod potensial gwirioneddol ar gyfer model llwyddiannus yng Nghymru, a all adeiladu ar gryfder datganoli heb dorri'n rhydd o'r Deyrnas Unedig. Dyna pam y credaf na ddylai hyn gynnwys Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU, diogelwch gwladol a gwrthderfysgaeth. Mae’n bwysig fod gwasanaethau’r heddlu'n parhau i allu darparu cymorth ar y cyd ar gyfer digwyddiadau mawr, fel yr hyn a welsom gydag uwchgynhadledd lwyddiannus NATO yn ne Cymru.
Mae'n amlwg fod angen i gydweithredu ym maes plismona ymestyn nid yn unig i Ynysoedd Prydain, ond i Ewrop a thu hwnt. Gwyddom fod troseddu a therfysgaeth yn croesi ffiniau, yn fwy felly yn awr nag erioed o'r blaen, ac mae angen inni gydgysylltu mesurau i sicrhau na all troseddwyr osgoi cyhuddiadau drwy ffoi i Sbaen neu wledydd eraill, fel oedd i'w weld yn arfer digwydd ar un adeg. Dyna pam y galwyd y Costa del Sol yn 'Costa del Crime'.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos y gallu i arwain a defnyddio synnwyr cyffredin, gan weithredu polisïau a ddatblygwyd gan Lafur Cymru, megis buddsoddi mewn swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol. Faint o bobl a hoffai roi diwedd ar y swyddogion cymorth cymunedol hynny erbyn hyn? Ym Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog, mae pwerau’r comisiynydd heddlu a throseddu wedi’u huno yn rôl y maer. Rwy'n aros i weld gyda diddordeb pam fod pobl yn credu y dylid datganoli plismona i Fanceinion a Gorllewin Swydd Efrog ond nid i Gymru. Mae plismona wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon; Cymru yw'r eithriad, yn sicr.
Hoffwn edrych ar ddau eithriad, sef Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU a diogelwch gwladol. Credaf fod angen ymdrin â hwy'n ganolog, gan nad yw diogelwch gwladol yn cydnabod unrhyw ffiniau ychwaith, felly credaf ei bod yn bwysig inni ymdrin â phethau yn y lle y gellir ymdrin â hwy yn y ffordd orau, ac yn fy marn i, y lle gorau i ymdrin â’r rhan fwyaf o blismona yw Cymru.
Asiantaeth ymladd troseddau a chanddi gyrhaeddiad cenedlaethol a rhyngwladol yw'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ac mae ganddi fandad pŵer i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill sy'n gorfodi’r gyfraith, gan ddefnyddio grym llawn y gyfraith i leihau troseddu difrifol a chyfundrefnol. Mae'r rheolaeth plismona ffiniau'n rhan hanfodol o'r gwaith o wella diogelwch y ffin. Mae'r rheolaeth troseddau economaidd yn rhoi'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn troseddu economaidd sy'n effeithio ar y DU.
Rydym wedi darparu ymateb cenedlaethol cydgysylltiedig i seiberdroseddu a throseddu a gaiff ei alluogi gan seiber. Nid yn unig nad yw'n cydnabod ffiniau ym Mhrydain, nid yw'n cydnabod ffiniau ledled y byd ychwaith, ac fe fydd pobl sydd wedi cael e-byst yn dweud wrthynt fod rhywun yn Affrica eisiau rhoi £10 miliwn, neu $10 miliwn iddynt, yn ymwybodol iawn fod y pethau hyn yn dod o bob rhan o'r byd. Nid wyf yn siŵr a oes unrhyw un wedi cael y $10 miliwn hwnnw, ond rwy'n tybio bod y seiberdroseddau hyn yn gweithio. Mae pobl yn cael eu targedu gan seibrdroseddu ledled Prydain yn awr, gyda negeseuon yn dweud wrthynt fod angen iddynt dalu i gael prawf COVID. Ac unwaith eto, dyna'r math o drosedd—. Nid ydynt yn meddwl ar ba ochr i ffin Cymru y mae'n digwydd; mae'n digwydd ledled Prydain. Felly, mae'n bwysig mynd i'r afael â'r pethau hyn yn ganolog.