Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 9 Mawrth 2022.
Rwy'n falch ein bod yn cael y ddadl hon, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Mike Hedges am ei galw hi. Mae consensws cynyddol y dylai cyfrifoldeb dros yr heddlu gael ei ddatganoli i’r lle hwn, ac nad yw’n gwneud synnwyr yn gyfansoddiadol nac yn ymarferol i’r materion hyn gael eu llywodraethu o rywle arall. Rwy’n credu y dylai heddlua fod yn lleol. Bydd Aelodau yma yn gyfarwydd â’r dadleuon cyfansoddiadol, nawr fod Cymru’n creu ei chyfraith ei hun, mae’n gwneud synnwyr y dylem hefyd fod yn gyfrifol am ei gweithredu, ond mae cyfiawnhad moesegol dros ei ddatganoli hefyd.
Mae’r gair Saesneg 'policing' yn dod o’r Hen Roeg 'polis', sydd ag ystyr ddeublyg, sef y ddinas a’r dinasyddion sy’n byw ynddi. Felly, mae hanes a chysyniad y gair yn cysylltu’r sefydliad a’r bobl. Nid dim ond gweithredu’r gyfraith y mae’r heddlu, nhw hefyd ydy ymgorfforiad y gyfraith ar ein strydoedd. Ac wrth gwrs, mae’r gair Cymraeg 'heddlu' yn golygu 'lluoedd dros hedd'.
Ond, Dirprwy Lywydd, does dim angen edrych yn ôl dros ganrifoedd i weld y cysylltiad rhwng awdurdod a’r bobl trwy’r heddlu, ac fel y mae hwnna, yn anffodus, yn cael ei erydu. Rydym wedi gweld erydu niweidiol dros y blynyddoedd diwethaf o ran ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr heddlu. Er bod y mwyafrif llethol yn bobl dda, yn bobl gydwybodol tu hwnt, mae niwed yn cael ei achosi gan leiafrif a diwylliant sydd angen newid. Nid problem i’r Met yn Llundain yn unig ydy hon, mae’n wir yng Nghymru hefyd. Mae ymchwil gan Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru’r wythnos hon yn dangos bod pobl ddu saith gwaith yn fwy tebygol o wynebu cael eu stopio a'u chwilio gan yr heddlu na phobl wyn.
Mae hyn yn wir am y system gyfiawnder, yn ogystal â’r heddlu. Mae ymchwil flaenorol gan Dr Jones yn dangos bod pobl bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu carcharu os ydynt yn ddu, o’i gymharu â phobl wyn. Ac mae dedfrydau ar gyfer pobl ddu, Asiaidd a hil gymysg yn sylweddol uwch ar gyfartaledd nag ar gyfer pobl wyn. Ac mae marwolaethau Mohamud Hassan a Mouayed Bashir, wedi iddynt ddod i gysylltiad â Heddlu De Cymru, yn parhau i fod yn destun cwestiynau difrifol.
Rydym ni wedi cynnal dadleuon yn y Senedd dros y misoedd diwethaf am sbeicio, stelcian, ac mae cwestiynau wedi cael eu codi am gyfraddau dedfrydu gwarthus o isel am dreisio a thrais gwrywaidd yn erbyn menywod. Ydynt, mae’r ffeithiau hyn yn rhan o broblemau ehangach, strwythurol mewn cymdeithas, ond dydyn nhw ddim yn eithriadau—maen nhw’n seiren argyfwng, yn dweud bod rhywbeth mawr o’i le. Wrth ddatganoli heddlua, yn ogystal â’r system gyfiawnder, gallwn ddechrau mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau dwfn o fewn ein cymdeithas. Gallwn gysylltu cyfiawnder a heddlu gydag iechyd, addysg a pholisi cymdeithasol, fel y gwnaeth yr Arglwydd Thomas ei gydnabod. Gallwn edrych o ddifrif am y rhesymau dros droseddu er mwyn ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf, hynny ydy, yn hytrach na pharhau â’r cylch dieflig o gosb a charchar.
Nid oes gan y Senedd hon y gallu i ddatrys y problemau gyda heddlu’r Met, ond mae dadl anatebol o gryf dros ddatganoli y system o bŵer i ddatrys ein problemau ni ein hunain. Drwy weithredu system gyfiawnder fwy cyfiawn, a pholisïau heddlu mwy goleuedig, gallwn adfer ymddiriedaeth yn ein systemau, lleihau trosedd a, thrwy hynny, gwarchod y cyhoedd o niwed gellir ei osgoi.
Dylai’r heddlu weithio o blaid y bobl. Dylen nhw fod yn weladwy, yn dryloyw ac yn atebol. Ond wnaiff hyn ddim digwydd wrth barhau â’r system bresennol sydd yn amlwg ddim yn gweithio. Dylai heddlua fod yn lleol, sy’n golygu y dylai penderfyniadau gael eu gwneud mor agos at y bobl ag sydd yn bosibl.