5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datganoli Plismona

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:55, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl Aelodau hon gerbron y Senedd, ac am yr holl gyfraniadau y prynhawn yma, sy'n bwysig yng nghyd-destun y mater allweddol hwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig.

Mae dros ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i gomisiwn Thomas gyhoeddi ei adroddiad ar gyfiawnder yng Nghymru. Yr adroddiad hwn yw'r ymarfer mwyaf cynhwysfawr a gynhaliwyd erioed i archwilio cyflwr y system gyfiawnder yng Nghymru, ac mae'n nodi angen clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth i weithredu. Argymhellodd comisiwn Thomas y dylid pennu polisi plismona a lleihau troseddu yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod plismona'n cael ei integreiddio'n gadarn o fewn yr un polisi a fframwaith deddfwriaethol ag iechyd, llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill, fel y disgrifiwyd heddiw yn y ddadl hon, gyda llawer iawn o enghreifftiau clir. Mae angen i'r gwasanaethau hyn gydweithio'n gyfannol i atal troseddu ac aildroseddu yn y ffordd a ddisgrifiwyd gan Jane Dodds mewn perthynas â menywod o fewn y system cyfiawnder troseddol. Ac ategodd John Griffiths hyn drwy ddweud mai'r dull ataliol yw'r ffordd gywir ymlaen. Ond argymhellodd comisiwn Thomas mai dim ond drwy ddatganoli plismona y gellir integreiddio polisi a deddfwriaeth. Rydym yn cefnogi hynny'n gryf. Ni allwn gysoni'r ddarpariaeth yn llawn ag anghenion a blaenoriaethau pobl a chymunedau Cymru hyd nes y bydd gennym oruchwyliaeth lawn ar y system gyfiawnder yng Nghymru.

Oes, mae yna elfen gyfansoddiadol i hyn. Mae Cymru mewn sefyllfa lle y gall ddeddfu ond ni all orfodi'r deddfau hynny. Y Senedd yw'r unig Senedd ym myd y gyfraith gyffredin y gwyddom amdani sy'n gallu deddfu heb yr awdurdodaeth i orfodi ei deddfau ei hun. Dyna pam ein bod yn mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, ac mae'n parhau i fod yn ymrwymiad gweinidogol cadarn yn ein rhaglen lywodraethu y pleidleisiodd pobl Cymru yn gadarn o'i phlaid y llynedd. Roedd yr ail argraffiad o 'Diwygio ein Hundeb', a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, yn atgyfnerthu'r safbwynt hwn. Mae'n cynnwys 20 o gynigion i roi'r undeb ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys y cynnig y dylai sefydliadau datganoledig fod yn gyfrifol am blismona a gweinyddu cyfiawnder. Mae angen datganoli plismona er mwyn gwneud y setliad cyfansoddiadol yn gydlynol ac yn ymarferol. Fe ddylai, ac fe fydd datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru yn digwydd. Mae'n fater o pryd, nid os. Nid teimlad gwleidyddol yn unig yw hyn; caiff cyfiawnder ei gyflawni'n well ar lefel fwy lleol, lle y gellir ei deilwra, ei flaenoriaethu a dylanwadu arno yn ôl angen y gymdeithas. Mae'n galondid fod y comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru yn cefnogi'r achos dros ddatganoli. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â hwy a rhanddeiliaid eraill ar y mater hwn. Rwy'n gwerthfawrogi fy nghysylltiad rheolaidd ag arweinyddiaeth gylchredol y comisiynwyr heddlu a throseddu, ac mae wedi bod yn fuddiol iawn o ran canlyniadau ymarferol.

Rydym yn cydnabod bod gan Lywodraeth y DU safbwynt gwahanol i ni, ac rydym yn gweithio ar gyhoeddiad cyfiawnder a fydd yn amlinellu sut yr ydym eisoes yn galluogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyfiawnder yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys mentrau sy'n atal pobl rhag dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder yn y lle cyntaf, yn ogystal â gweithgarwch sy'n helpu pobl sydd eisoes mewn cysylltiad â'r system i wneud y daith oddi wrthi. Bydd y cyhoeddiad hwn yn atgyfnerthu'r pwynt a wnaed gan gomisiwn Thomas fod plismona'n cydblethu'n sylfaenol â'r gwasanaethau datganoledig sy'n cefnogi pobl ac yn atal troseddu. Bydd hefyd yn tanlinellu ein bod eisoes yn cyflawni ein gweledigaeth unigryw ar gyfer sut y dylai cyfiawnder troseddol weithio yng Nghymru. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, rydym yn cefnogi dull ataliol, cydweithredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio i dorri cylchoedd aildroseddu rhwng cenedlaethau. Mae ein gwaith gyda phartneriaid yn ganolog i'r weledigaeth hon. Mae Cymru eisoes yn cydweithio, gan groesi'r ffawtliniau anodd sy'n treiddio trwy ein gwasanaethau a gadwyd yn ôl a'n gwasanaethau a ddatganolwyd. Rydym yn rhannu'r nod cyfunol o sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni'n effeithiol yng Nghymru.

Mae'r setliad datganoli presennol wedi creu llu o heriau diangen i blismona yng Nghymru. Er gwaethaf y rhain, mae'r heddlu yng Nghymru wedi gweithio'n ddiflino, mewn partneriaeth â ni, i oresgyn y diffygion deddfwriaethol. Yn benodol, ni fyddai Llywodraeth Cymru wedi llwyddo yn ei hymateb brys i'r pandemig COVID heb y berthynas waith eithriadol o gryf a chydweithredol â heddluoedd Cymru a chydag asiantaethau cyfiawnder eraill sy'n chwarae rhan hanfodol yn ymgysylltu â phobl a gorfodi ein rheoliadau lle y bo angen. Mae hon yn bartneriaeth sydd wedi cryfhau ymhellach o ganlyniad i'r pandemig, ac mae'r dull partneriaeth hefyd yn amlwg yn ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu yr ydym yn eu cyflawni, ynghyd â chomisiynwyr heddlu a throseddu a heddluoedd yng Nghymru. Mae ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi gweithio mor dda i wella canlyniadau i fenywod a phobl ifanc yn y system gyfiawnder, yn enghraifft berffaith, a byddaf yn cyd-gadeirio'r bwrdd gweithredu cenedlaethol ar gyfer y strategaeth gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu, Dafydd Llywelyn, gan gydweithio i wneud Cymru'n lle mwy diogel i fenywod a merched.

Mae uchelgais ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i fod yn Gymru gwrth-hiliaeth yn ein galluogi i weithio gyda'n gilydd i sicrhau newid pendant. Mae cyfiawnder troseddol yng Nghymru bob amser wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth, ac rydym yn gweithio'n agos gyda hwy ar eu cynllun cydraddoldeb hiliol i sicrhau cysondeb ar draws y ddau gynllun, ac rydym yn croesawu'r ymrwymiad cryf gan ein partneriaid cyfiawnder i fod yn rhan o'r ateb i ddileu hiliaeth. Ond fel y mae Delyth Jewell wedi nodi, mae'r ffigurau a gyhoeddwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru mewn perthynas â stopio a chwilio, fel y soniodd y Prif Weinidog yn y Siambr ddoe hefyd, yn wirioneddol frawychus. A dyna pam y mae gennym ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru i sicrhau bod elfennau cyfiawnder yn y cynllun cydraddoldeb hiliol yn gadarn ac yn mynd i'r afael â'r dystiolaeth glir o anghyfranoldeb o fewn y system gyfiawnder.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i gadw ein cymuned yn ddiogel a rôl hanfodol plismona yn y gymdogaeth, fel a fynegwyd y prynhawn yma. Dyna pam y mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i gynnal cyllid ar gyfer y 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a sicrhau cynnydd o 100 yn eu nifer. Unwaith eto, dyma lle y gallwn weld grym a chryfder y swyddogion cymorth cymunedol ym mhob un o'n cymunedau yn ymgysylltu â'r bobl a'r cymunedau ar y rheng flaen, ym mhob dim sy'n effeithio ar fywydau a chymunedau pobl.

Mae bwrdd partneriaeth plismona Cymru, sy'n cyfarfod bob chwarter, ac a gadeirir naill ai gennyf fi neu gan y Prif Weinidog, yn gyfle gwerthfawr i blismona yng Nghymru a Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r materion pwysig hyn i Gymru sy'n torri ar draws agweddau ar wasanaethau cyhoeddus sydd wedi'u datganoli neu heb eu datganoli. Hyd yn oed heb ddatganoli plismona, rydym yn cyflawni cymaint pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth â'n heddluoedd a'n comisiynwyr heddlu a throseddu, ond dychmygwch yr hyn y gallem ei gyflawni dros bobl Cymru pe bai plismona'n cael ei ddatganoli, ac rwy'n eich annog heddiw i fy nghefnogi a derbyn y cynnig hwn. Diolch yn fawr.